Cynigiwn wasanaeth proffesiynol, personol, dwyieithog gyda balchder – gan dalu sylw arbennig i fanylion ac i ansawdd y gwaith cyflwyno. Mae gan ein tîm brofiad helaeth o gydweithio â defnyddwyr a darparwyr yn y diwydiant bwyd.
Nerys Howell Mae gan Nerys sgiliau arbennig a phrofiad helaeth ym maes bwyd, arlwyo a chroesawgarwch. Mwynhaodd yr her o wneud gwaith rheoli mewn nifer o wahanol sefydliadau ac mae'n gyfarwydd â'r tueddiadau diweddaraf ac effeithiau deddfwriaeth yn y diwydiant. Mae ganddi brofiad helaeth o waith ymchwil aml-gyfrwng, gwerthuso a chyflwyno materion cyfoes sy'n ymwneud â bwyd a diod. Teithiodd yn helaeth gan hybu bwydydd a diodydd o Gymru.
Sian Hill Ymunodd Sian â'r cwmni yn Mai 2011 felUwch Reolwr Prosiectauac mae ganddi dros ddeuddeg mlynedd o brofiad rheoli prosiectau ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwysbwyd a diod, twristiaeth, addysg a hefyd rheoli prosiectau Rhyngwladol.Mae'n siarad Cymraeg a Ffrangeg yn rhugl. Mae Sian wedi rheoli prosiectauar gyfer gleientiaidproffil uchel ar draws y DU ac Ewrop. Mae hi wedi cyflwyno digwyddiadau o bwys ac ymgyrchoedd marchnata i gleientiaid megis Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru, Busnes Rhyngwladol Cymru a'r Swyddfa Gartref. Mae Sian ar hyn o bryd yn gyfrifol am reoli presenoldebCymru y Gwir Flas mewn arddangosfeydd o amgylch y DU ar ran y Bwyd, Pysgodfeydd a'r Is-adran Datblygu Marchnad Llywodraeth Cymru. Y tu allan i oriau’r swyddfa mae Sian yn mwynhau coginio a bwyta (wrth gwrs!) a dosbarthiadau brwydro yn erbyn y corff yn y gampfa.
Angharad Evans Mae Angharad wedi bod efo’r cwmni am dair mlynedd ac yn ddiweddar cafodd ei phenodi fel Rheolwr Prosiectau. Mae ganddi brofiad eang o weithio fel cydlynydd digwyddiadau gan iddi weithio yn flaenorol ym mŷd y cyfryngau yng Nghymru yn trefnu cynhadleddau ffilm, darllediadau allanol a darllediadau byw. Ers ymuno â Ymgynghoriaeth Bwyd Howel mae Angharad wedi trefnu digwyddiadau bwyd a diod yn Hong Kong, Japan, Ffrainc a’r Almaen tra’n ôl yng Nghymru fach bu’n hyrwyddo bwyd a diod Cymreig mewn sawl digwyddiad enwog gan gynnwys ‘Taste of London’, Gwyl y Gelli, Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau bwyd diri. Ar hyn o bryd mae’n gyfrifol am reoli taith Cegin Gwir Flas sydd yn teithio o amgylch Prydain yn hyrwyddo ennillwyr Gwobrau’r Gwir Flas.
Ond gwir gariad Angharad yw bwyd.... pan nad yw hi’n coginio, bwyta, darllen ryseitiau a siopau am fwyd gellir gweld Angharad bron bob tro â phaned o de yn ei llaw (yn ystod oriau gwaith) neu gwydriad o win (tu allan i oriau gwaith wrth gwrs)!!!
Sharon Voyle Fe ymunodd Sharon â thîm YBH fel Rheolwr Swyddfa ganol mis Medi. Magwyd Sharon yn Sir Gâr ond mae wedi symud i Gaerdydd ar ôl treilio 30 mlynedd yn byw a gweithio yn Swydd Northampton. Mae ganddi brofiad helaeth o waith gweinyddol ac wedi gweithio yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol gan gynnwys gweithio yn ddiweddar yn y diwidiant etifeddiaeth a thwristiaeth. Mae Sharon with ei bodd ei bod wedi cael y cyfle i symud yn ôl i Gymru yn enwedig gan ei bod yn awr yn gallu siarad am fwyd a diod trwy’r dydd a hynny yn y Gymraeg!