Amdanom Ni

Nerys Howell

Sefydlwyd y cwmni gan Nerys yn 2005 ac erbyn hyn mae hi a’i thîm o arbenigwyr, ymgynghorwyr a chydweithwyr cysylltiol yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau i’r diwydiant bwyd a diod.  Mae gan Nerys flynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd, diod a lletygarwch, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ac mae’n teithio i bedwar ban byd i hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru.  Mae ei llyfr dwyieithog, Cymru ar Blât (2009), yn cynnwys ryseitiau traddodiadol a chyfoes sy’n defnyddio cynnyrch o Gymru ac yn anadlu bywyd newydd i draddodiadau a bwydydd Cymru. Cyrhaeddodd y llyfr y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Llyfrau Coginio Rhyngwladol Gourmand 2010.  Mae Nerys yn cyfrannu’n rheolaidd at raglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg.

Mae ei thîm brwdfrydig yn credu’n angerddol mewn hyrwyddo bwydydd da ac maent yn hollol gyfarwydd â’r tueddiadau diweddaraf yn y maes bwyd.  Eu nod yw cynnig y gwasanaeth gorau i chi bob amser!

Cewch wybod mwy am ein profiad yn yr adran Ein Gwaith neu cewch ein ffonio am sgwrs i weld beth y gallwn ei wneud i’ch helpu chi a’ch busnes.