I wylio Nerys yn coginio’r pryd hwn ewch i waelod y dudalen.

I wneud byrger gwahanol, torrwch tua 75g o gaws Caerffili yn sgwariau mân a’i gymysgu â’r cig.

Digon i: 4  Paratoi: 10 munud  Coginio: 15 munud

Cynhwysion

500g briwgig cig oen
½ winwnsyn bach, wedi’i dorri’n ddarnau mân
50g briwsion bara
1 wy maes
1 llond llwy fwrdd bara lawr
1 llond llwy de halen môr Halen Môn
2 lond llwy fwrdd mint ffres, wedi’i dorri’n fân neu 1 llond llwy fwrdd mint sych

Ar gyfer y relish
200ml iogwrt Groegaidd
Dwy domato hirgrwn, wedi’u torri’n ddarnau
1 lemon, wedi tynnu’r croen melyn
2 lond llwy fwrdd mint ffres, wedi’i dorri’n fân
2 shibwnsyn, wedi’u sleisio
1 ewin garlleg wedi’i wasgu
2 lond llwy de finegr gwin gwyn
1 llond llwy fwrdd olew olewydd

I’w weini
Bara wedi’i dostio neu eu radellu
Dail letys, sleisys tomato a chiwcymber

Dull

Rhowch y briwgig mewn powlen fawr ac ychwanegu’r winwnsyn, y briwsion, y bara lawr, yr wy, yr halen a’r mint a’u cymysgu’n dda. Rhannwch y gymysgedd yn bedwar a gwneud byrgers. Rhowch nhw yn yr oergell nes byddwch yn barod i’w coginio.

Cynheswch badell ffrïo neu radell a ffrïo’r byrgers ar wres canolig am ryw 4-5 munud ar bob ochr, neu nes y byddant wedi coginio trwyddynt.

Yn y cyfamser, cymysgwch yr iogwrt, y tomatos, y lemon, y mint, y shibwns, y garlleg, y finegr a’r olew. Sesnwch â halen a phupur.

Gweinwch y byrgers yn y bara cynnes wedi’i dostio gyda’r salad ac ychydig o’r relish mint ar yr ochr neu mewn dysgl.