Mae hwn yn hwyl i’w rannu fel cwrs cyntaf anffurfiol.

Digon i: 4      Paratoi: 5 minutes       Coginio: 20 minutes

Cynhwysion

1 caws Organic Golden Cenarth, wedi tynnu’r plastig
1 torth surdoes wedi’i thorri’n giwbiau
2 lond llwy fwrdd olew olewydd

Dull

Cynheswch y ffwrn i 200ºC/400ºF/marc nwy 6.

Rhowch y caws yn y pecyn pren ar dun pobi a’i glymu â llinyn.  Pobwch yn y ffwrn am 20 munud nes bydd y caws yn dechrau toddi.

Yn y cyfamser rhowch y ciwbiau bara ar yr olew olewydd a’u troi i’w gorchuddio.  Pobwch nhw am 10 munud nes eu bod yn frown ac yn dechrau cisbio.

Daliwch y ciwbiau â ffyn pren a’u gweini gyda’r caws.