Salad hâf o ardal Toscana yn yr Eidal.  Mae’n ddelfrydol ar gyfer bwyta tu allan yn yr haul neu ar gyfer picnic – rhowch yr haenau mewn jar kilner fel ffordd rhwydd o’i gario.

Cynhwysion

1 hen dorth ciabatta
750g tomatos aeddfed
½ ciwcymbr wedi dorri’n giwbiau mawr
2 ewyn o garlleg wedi’u malu gydag ychydig o halen
75ml olew olewydd da
2 llwy fwrdd finegr gwin coch
2 pupur coch
2 pupur melyn
1 tsili coch
1 winwnsyn coch wedi’i dorri’n denau
100g olifau du heb gerrig
bwndel o fasil wedi’i dorri’n fras
pupur du

Dull

Torrwch y bara i dafellu tew a rhowch mewn powlen fawr. Tynnwch y croen a hadau y tomatos a rhowch mewn rhidyll dros powlen arall. Torrwch y tomatos i 8 darn. Blaswch sudd y tomatos gyda’r garlleg, pupur du, olew olewydd a’r finegr. Arllwyswch hwn dros y bara a throwch tan bod y bara wedi amsugno’r sudd i gyd.

Rhostiwch y pupur a’r tsili mewn ffwrn dwym neu ar y barbeciw tan bod y croen bron yn ddu. Tynnwch groen a hadau’r pupur a thorrwch i 8 darn. Tynnwch hadau’r tsili a thorrwch yn fân. Mewn powlen fawr, rhowch y bara, tomatos, ciwcymbr, winwns, basil a’r pupur mewn haenau gan orffen gyda’r pupur, olifau cyfan a’r basil. Gadewch am awr cyn ei weini gyda mwy o olew olewydd.