Cynhwysion

1 nionyn/winwnsyn gweddol o faint, wedi’i bilio a’i dorri’n fân
2 ewin garlleg, wedi’u pilio a’u malu
llond llwy bwdin o olew llysiau
100g o friwsion bara gwyn neu frown ffres
2 lond llwy fwrdd orlawn o fara lawr ffres neu o dun
croen a sudd 1 lemwn
llond llwy fwrdd o bersli ffres wedi’i dorri’n fân
llond llwy fwrdd o fintys ffres wedi’i dorri’n fân

Dull

Twymwch yr olew mewn padell ffrio drom a choginio’r winwnsyn a’r garlleg dros wres cymhedrol nes eu bod yn feddal. Tynnwch y badell oddi ar y gwres ac ychwanegwch y cynhwysion eraill. Cymysgwch nhw’n dda ac ychwanegu ychydig o bupur a halen môr – dim gormod gan y gall y bara lawr fod yn hallt.

Ffurfiwch rhyw wyth o beli bychain o’r gymysgedd a’u rhoi ar dun pobi wedi’i iro.  Coginiwch nhw yn y ffwrn (180ºC/350ºF/nwy 4) am 20 munud neu hyd nes y byddant wedi crimpio’n dda. Gallwch hefyd eu ffrio am tua dwy funud mewn 2 lond llwy fwrdd o olew llysiau gan gadw i’w troi i neud yn siwr eu bod wedi’u brownio trostynt.

Saws iogwrt
250g iogwrt Llaeth y Llan
1 ewin garlleg
1 llond llwy fwrdd mintys ffres
croen a sudd ½ lemwn

Malwch y garlleg a thorrwch y mintys yn fân. Cymysgwch y rhain i mewn i’r iogwrt gyda chroen a sudd ½ lemwn. Sesnwch gyda halen a phupur i flasu.