Gallwch ddefnyddio unrhyw gyfuniad o ffrwythau’r tymor yn y pwdin hwn, fel gellyg, cwins, eirin gwyrdd, riwbob, eirin gwlanog neu fefus. Hyfryd iawn gyda hufen eirin duon a jin eirin tagu!

Digon i: 8   Paratoi: 25 munud   Coginio: 1 awr

Cynhwysion

1.5kg afalau coginio, eirin, mwyar duon
talp mawr o fenyn, a mwy i iro’r ddysgl
100g siwgr brown meddal golau
1 llwy de sinamon mâl
½ llwy de sinsir mâl
2 ddeilen bae ffres

Ar gyfer y cytew
200g menyn di-halen, wedi’i feddalu
180g siwgr man euraid
4 wy buarth mawr
150g blawd codi
50g almonau mâl
Llond llaw o sleisys almonau (os dymunwch)

Ar gyfer yr hufen
200ml hufen dwbl
1 llwy fwrdd eirin duon
50ml Jin Eirin Tagu

Dull

Cynheswch y ffwrn i 180ºC/350ºF/marc nwy 4. Pliciwch yr afalau, tynnu’r galon a’u torri’n ddarnau mawr. Torrwch yr eirin yn eu hanner a thynnu’r cerrig (gallwch adael y croen).

Rhowch y ffrwythau mewn sosban fawr gyda’r menyn, siwgr brown, sbeisys a’r dail bae. Trowch y cyfan a gadael iddo goginio ar wres isel am chwarter awr â’r caead drosto. Pan fydd y ffrwythau’n feddal ac wedi coginio, tynnwch y sosban oddi ar y gwres, taflwch y dail bae, ychwanegwch y mwyar duon a’i roi o’r neilltu.

Yn y cyfamser, hufennwch y menyn a’r siwgr mewn powlen nes y bydd yn ysgafn. Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan eu curo’n dda, yna cymysgwch y blawd a’r almonau mâl yn ofalus. Irwch ddysgl bobi 20cm. Rhowch y ffrwythau ar waelod y ddysgl a’r cytew drostynt. Taenwch y darnau almonau drosto os dymunwch. Pobwch yn y ffwrn gynnes am 40 i 45 munud, nes bod y sbwng wedi coginio trwyddo ac yn frown euraid.

Chwipiwch 200ml o hufen dwbl nes ei fod yn gadael pigau meddal. Cymysgwch y jam a’r jin eirin tagu a’i gymysgu’n ofalus â’r hufen.

Dewis iachus
Gwnewch hanner y cytew (gyda dau wy) a defnyddiwch iogwrt math Groegaidd i’w gymysgu â’r jam a’r jin eirin tagu yn lle hufen.