Mae rhain yn dda i frecwast, brinio neu de.  Gallwch eu bwyta gyda chig moch crisbyn ac ychydig o fêl drostynt neu gyda wyau wedi’u sgramblo ac eog mwg.  Dewiswch chi!

Digon i: 8   Paratoi: 20 munud   Coginio: 20 munud

Cynhwysion

450g tatws blawdiog, e.e. Puffin Maris Piper, wedi’u plicio a’u chwarteru
25g menyn Cymreig
75g blawd plaen
Olew llysiau

Dull

Berwch y tatws mewn dwr a halen am 15 munud neu nes eu bod yn dyner.  Draeniwch a’u stwnsho.  Curwch y menyn a’r blawd i mewn â llwy bren.  Rhowch y tatws ar fwrdd blawdiog a’u tylino’n ysgafn.  Rhowch i oeri am awr.
Rholiwch a thorri 8 sgon ohono â thorrwr plaen 7cm.
Cynheswch faen pobi neu padell ffrio drom a’i iro.  Coginiwch y sgons am ryw 4-5 munud ar bob ochr nes eu bod yn euraid.

Gweinwch nhw’n gynnes gyda menyn Cymreig a’ch hoff jam.