Digon i 4
Amser paratoi:  20 munud
Amser coginio:  1 awr

Cynhwysion

8 selsigen porc a tsili
1 llwy fwrdd olew olewydd
1 winwnsyn coch mawr, wedi’i dorri’n fân
1 ewin garlleg wedi’i wasgu
2 dafell o gig moch mwg rhesog, wedi’i dorri’n sgwariau
1 sbrigyn yr un, teim ffres, rhosmari a saets
1 x tun 400g o domatos wedi’u torri’n ddarnau
300ml o gwrw
1 x tun 400g ffa cannellini wedi’u coginio, wedi’i draenio
1 llwy bwdin siwgr muscovado
1 llwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fân
Halen a phupur

Dull

Cynheswch y ffwrn i 170ºC/marc nwy 3.

Cynheswch yr olew mewn dysgl gaserol fawr sy’n dal gwres. Rhowch y selsig ynddi a’u ffrio nes y byddant yn frown drostynt. Tynnwch y selsig a’u rhoi o’r neilltu.

Ychwanegwch y winwns, y garlleg a’r cig moch a’u ffrio nes y byddant yn feddal.  Rhowch y selsig yn ôl, ynghyd â’r tomatos tun, y cwrw, y teim, rhosmari, saets a’r siwgr. Sesnwch gyda halen a phupur. Codwch i’r berw, rhowch gaead arno a’i roi yn y ffwrn. Coginiwch am ryw 40 munud.

Tynnwch y ddysg gaserol o’r ffwrn ac ychwanegu’r ffa. Coginiwch am 15 munud arall heb gaead nes bydd y ffa wedi cynhesu a’r sudd yn dechrau tewychu.

Addurnwch gyda darnau persli a’i weini gyda thatws stwnsh hufennog.