Ein Gwaith

Hyrwyddo Cynnyrch

Bu ein tîm talentog yn cydweithio ag Asda yn ddiweddar, yn datblygu ryseitiau gwreiddiol, awgrymiadau gweini a syniadau ymarferol ar gyfer bwyd môr er mwyn annog cwsmeriaid i brynu pysgod mwy cynaliadwy.   Am fod amser yn brin, bu un o’n Economegwyr Cartref arbenigol yn gweithio ddydd a nos i ddarparu manylion ar gyfer dros 50 o eitemau gwahanol.

Diolch – mae’r awgrymiadau am ryseitiau’n ardderchog! Rwyf wrth fy modd!  Rwy’n hoffi’r amrywiaeth a’r ysbrydoliaeth. Dyna’n union y mae’n cwsmeriaid ni’n gofyn i ni amdano!

Charlie Mills

Cynllunydd Cwsmeriaid, Asda

Bu Tesco yn hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru mewn 18 o’u siopau yng Nghymru ar ôl noson wobrwyo Cymru y Gwir Flas. Ni oedd yn cydgysylltu ac yn rheoli’r ymgyrch hyrwyddo ar Gegin y Gwir Flas, gan gysylltu â dros 30 o gwmnïau i ddarparu eitemau ar gyfer eu profi, eu marchnata a’u harddangos. Roedd y rhain yn cynnwys rhai o brif frandiau Cymru fel Rachel’s, Hufenfa De Arfon, Brains, Edwards o Gonwy, Braces, Llaeth y Llan a chig oen a chig eidion Cymru, ymhlith eraill.

 

Roedd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn eithriadol o broffesiynol pan oedden nhw’n gweithio gyda ni. Roeddwn i’n gallu dibynnu arnyn nhw 100% i wneud yr holl waith trefnu. Roedd gweithio gyda Nerys a’i thîm yn bleser pur.

Enfys Fox

Rheolwr Marchnata Cymru, Tesco