Mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn arbenigo mewn cynnig nifer o wasanaethau creadigol, arloesol o ansawdd arbennig ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. Rydym yn ymfalchïo yn safon y bwydydd a'r diodydd a gynhyrchir yng Nghymru ac yn benderfynol o dynnu sylw at y ffaith fod Cymru'n darparu cynnyrch o safon ardderchog ar gyfer y diwydiant gwasanaethau bwyd gartref a thramor.
Mae gan ein tîm brwd brofiad o ddatblygu syniadau newydd ac o roi cymorth a chefnogaeth ymarferol:
- Galluogi'r diwydiant i fod yn fwy cystadleuol a llwyddiannus - Hyrwyddo'r diwydiant yn y farchnad fyd-eang - Datblygu diwylliant bwyd Cymru
08.07.10 Taste of London
Yn ddiweddar, roedd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn ddigon lwcus i gael cynrychioli Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sioe Taste of London yn Regents Park. Gyda dros 10,000 o ymwelwyr sy'n hoffi bwyd da, roedd yn llwyddiant mawr! Twristiaeth fwyd oedd y thema lwyddiannus yn yr ŵyl ac roedd cyfle i gwrdd â chynhyrchwyr bwydydd y Gwir Flas, a phobl sy'n rhedeg gwestai, tai bwyta a sioeau bwyd. Bu miloedd o ymwelwyr yn cymryd rhan yng Nghwis y Gwir Flas ac roedd gwobrau ardderchog i'r enillwyr. Y wobr gyntaf oedd gwyliau dau ddiwrnod mewn gwesty Cymreig o ddewis yr enillydd, diolch i Welsh Rarebits a'r ail wobr oedd cinio i ddau a chyfle i weld o gwmpas gwinllan Ancre Hill yn Sir Fynwy.
Ymhlith y rhai oedd yn arddangos yn Taste of London roedd: Calon Wen, Ancre Hill, Toffoc, Caws Cenarth, Brownis Bwthyn Gŵyr, Cig Oen Dyffryn Elwy, The Pudding Compartment, Blaenavon Cheese, Llaeth y Llan, Cymdeithas Perai a Seidr Cymru, Welsh Rarebits, Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi, Gŵyl Bwyd Môr Aberteifi, Gŵyl y Bont-faen a Cowbridge festival a Gŵyl Gwledd Conwy.
12.05.10 Nerys yn cael sylw mewn cylchgrawn yng N
Rhan o erthygl 'Fresh From the Kitchen' gan Sarah Phinney. Un o'r llu uchafbwyntiau oedd cwrdd â Nerys Howell, arbenigwr coginio a chogydd sy'n cyflwyno rhaglen goginio ar deledu cenedlaethol. Rhoddodd Nerys wers goginio i ni mewn cromen wydr enfawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Tan yn ddiweddar, ychydig a ysgrifennwyd am goginio yng Nghymru. Mae'n debyg na chafodd y ffordd Gymreig o goginio lawer o sylw am nad yw'n wahanol iawn i'r hyn a geir yng ngweddill Prydain ac yn Iwerddon. "Mae rhesymau eraill hefyd fel effaith crefydd Anghydffurfiol a oedd yn wfftio bwydydd moethus a chyfnodau tlawd sydd, yn naturiol, wedi dylanwadu ar ein harferion coginio," meddai Nerys. Yn ogystal, roedd llawer o rysetiau traddodiadol yn cael eu trosglwyddo ar lafar gan famau i'w merched ac nid oedd angen eu hysgrifennu. Y newyddion da yw bod Nerys wedi cyhoeddi llyfr, "Cymru ar Blât: Ryseitiau Traddodiadol a Chyfoes ar gyfer Cynnyrch o Gymru". Rhoddodd gopi i bob aelod o'n criw ni. Mae'n em o lyfr. Fodd bynnag, er mwyn cadw'r ryseitiau traddodiadol yn fyw, mae Nerys o'r farn bod angen eu haddasu i gymryd i ystyriaeth chwaeth pobl heddiw, ein dulliau coginio a'n cynhwysion. Dyma rai o'i hawgrymiadau: defnyddio llai o fraster, olew, siwgr a halen nag a nodir yn yr hen ryseitiau; defnyddio cynhwysion mwy modern, fel rhoi llugaeron neu lusi Amercianaidd yn lle cyraints a syltanas, a grilio, tro-ffrïo neu stemio yn lle ffrïo, rhostio neu ferwi. Mae'n bryd cael blas ar Gymru. Beth am godi'ch gwydr gyda mi? “Iechyd da!”