Mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn arbenigo mewn cynnig nifer o wasanaethau creadigol, arloesol o ansawdd arbennig ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. Rydym yn ymfalchïo yn safon y bwydydd a'r diodydd a gynhyrchir yng Nghymru ac yn benderfynol o dynnu sylw at y ffaith fod Cymru'n darparu cynnyrch o safon ardderchog ar gyfer y diwydiant gwasanaethau bwyd gartref a thramor.
Mae gan ein tîm brwd brofiad o ddatblygu syniadau newydd ac o roi cymorth a chefnogaeth ymarferol:
- Galluogi'r diwydiant i fod yn fwy cystadleuol a llwyddiannus - Hyrwyddo'r diwydiant yn y farchnad fyd-eang - Datblygu diwylliant bwyd Cymru
25.01.12
Diolch byth i ni gael hoe dros y ‘Dolig achos mae wedi bod fel ffair ma ers hynny! Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir yn Llundain i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ar ran Llywodraeth Cymru,mae YBH wrthi yn cydlynu Marchnad Gwir Flas Dydd Gwyl Dewi ar y Southbank yn Llundain, 2 - 4 Mawrth, 2012. Bydd y Farchnad yn cynnwys 20 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ochr yn ochr â'r Tryc Gwir Flas (neu'r hen Gegin Gwir Flas!!). Cawn arddangosfeydd coginio gan gogyddion o bob cwr o Gymru yn ogystal a chyfle i flasu cynnyrch Cymreig ar gael i'w prynu yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr. Dewch nol am fwy o fanylion ...
Ar noson Dydd Gwyl Dewi byddwn yn hyrwyddo Cymru i fawrion Llundain yng nghartref BAFTA, 195 Piccadilly. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda thim arlwywyr BAFTA i greu bwydlen fydd yn adlewyrchu y gorau o fwyd a diod Cymru i 200 o westeion arbennig.
Yn y cyfamser mae Nerys wrthi yn casglu a chofnodi rhai o ryseitiau hen ei theulu ar gyfer Casgliad y Werin, (www.peoplescollectionwales.co.uk - casgliad o luniau, dogfennau, sain, fideos, straeon ac atgofion mae pobol Cymru wedi cyfrannu, i gyd ar un gwefan) ar gyfer rhaglenni Wedi 3 ar S4C. Caiff y gyfres fer ei darlledu ar 20fed o Ionawr a’r 3ydd a 7fed o Chwefror.
Prosiectau cyffrous eraill ar y gweill yw digwyddiadau masnachol y Gwir Flas ym Mrwsel, Singapore a Sbaen. Amser i ymarfer ein sgiliau ieithyddol!
02.12.11
Dyma ni wedi cyrraedd digwyddiad ola 2011! Roedd y BBC Good Food Show yn yr NEC Birmingham yn llwyddiant mawr gyda dros 5,500 o gylchgronau Gwir Flas wedi’u dosbarthu a channoedd wedi cymryd rhan yn y cwis Gwir Flas gyda Cwis Feistr Rhodri Williams - er bod rhai o'r atebion gan y cynulleidfa wedi bod yn ofnadwy! Tra roedd Y Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn 28˚C yn gynhesach eleni na'r eira a gwmpesir ar y sioe llynedd! Ond yn lle eira eleni fe gawsom y gwynt a'r glaw, ond yn sicr ni gafodd effaith ar hwyliau pobl, roedd y Neuadd Fwyd yn brysur gydag ymwelwyr dros y ddau ddiwrnod. Unwaith eto roedd yr arddangosiadau coginio gan Nerys Howell, Dudley Newbery a Phrif Gogydd Llansanffraid Court Hotel, Peter Lias yn poblogaidd a ddaru nhw gynnig i’r cynulleidfaoedd amrywiaeth o ryseitiau Nadolig ac awgrymiadau, tra bod Deiniol ap Dafydd yn cynnig awgrymiadau ar ba gawsiau o Gymru i weini gyda gwin, cwrw neu seidr. Does dim esgus ‘da ni nawr! Felly, ymalen i Taste of Christmas yn Llundain! Fyddwn wrthi’n samplu bwyd a diod Gwir Flas, mi fydd Elwen o Hybu Cig Cymru wrthi’n paratoi ryseitiau gyda cig oen Cymreig yn y Gegin, a bydd tri o gynhyrchwyr Gwir Flas - Baravelli o Landudno, Black Mountains Smokery a Pemberton Chocolates yn ymuno â ni. Pwy a ŵyr, efallai y byddwn hyd yn oed yn taflu cwis neu ddau i fewn am hwyl!!