Ymgynghoriaeth Bwyd Howel | Howel Food Consultancy
 
Cartref   English
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel  
2012 | 2011 | 2010 | 2009 | 2008 | 2007 | 2006 | 2005

25.01.12

Diolch byth i ni gael hoe dros y ‘Dolig achos mae wedi bod fel ffair ma ers hynny! Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir yn Llundain i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ar ran Llywodraeth Cymru,mae YBH wrthi yn cydlynu Marchnad Gwir Flas Dydd Gwyl Dewi ar y Southbank yn Llundain, 2 - 4 Mawrth, 2012. Bydd y Farchnad yn cynnwys 20 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ochr yn ochr â'r Tryc Gwir Flas (neu'r hen Gegin Gwir Flas!!). Cawn arddangosfeydd coginio gan gogyddion o bob cwr o Gymru yn ogystal a
chyfle i flasu cynnyrch Cymreig ar gael i'w prynu yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr. Dewch nol am fwy o fanylion ...

Ar noson Dydd Gwyl Dewi byddwn yn hyrwyddo Cymru i fawrion Llundain yng nghartref BAFTA, 195 Piccadilly. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda thim arlwywyr BAFTA i greu bwydlen fydd yn adlewyrchu y gorau o fwyd a diod Cymru i 200 o westeion arbennig.

Yn y cyfamser mae Nerys wrthi yn casglu a chofnodi rhai o ryseitiau hen ei theulu ar gyfer Casgliad y Werin, (www.peoplescollectionwales.co.uk - casgliad o
luniau, dogfennau, sain, fideos, straeon ac atgofion mae pobol Cymru wedi cyfrannu, i gyd ar un gwefan) ar gyfer rhaglenni Wedi 3 ar S4C. Caiff y gyfres fer ei darlledu ar 20fed o Ionawr a’r 3ydd a 7fed o Chwefror.

Prosiectau cyffrous eraill ar y gweill yw digwyddiadau masnachol y Gwir Flas ym Mrwsel, Singapore a Sbaen. Amser i ymarfer ein sgiliau ieithyddol!
 

2012 | 2011 | 2010 | 2009 | 2008 | 2007 | 2006 | 2005
Safle gan Innivo