15.11.05 Y Llyfr
O’r diwedd mae Nerys wedi penderfynu mynd ati i gasglu rhai o’i ryseitiau creadigol a’i gosod ar bapur! Fel y disgwylyr, canolbwyntir y seigiau ar goginio rhanbarthol Cymru, gyda ryseitiau newydd yn defnyddio cynnyrch gorau Cymru. Mae’r llyfr wrthi yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda’r gobaith o’i chyhoeddu yn 2006.
15.11.05 Sioe Deithiol Bwrdd Croeso Cymru
Mis Mawrth, trefnwyd taith flynyddol y Bwrdd Croeso ledled Cymru. Gweithiodd Nerys gyda staff y gwahanol canolfanau arlwyo i sicrhau bod pob cynrichiolydd yn cael profiad o gynnyrch lleol dros ginio. Ar y bwydlen cafwyd bwydydd fel ‘pastai stec a chwrw felifoel’ (cig o Ffarm Neuadd Llandrindod), quiche cocos Penclawdd a chig moch, a brithyll ‘Valley Farm’ gyda chacen tatw a chennin. I rhau a dant melys, bu cyfle i brofi ‘torte siocled tywyll gyda gwirod Merlyn wedi’i weini a mango wedi’u garameleiddio.
15.11.05 Bwyd i fynd….
Rydym newydd cwblhau dau llawlyfr newydd – Llawlyfr y Gwir Flas i ddarparwyr bwyd i fynd, a Llawlyfr i gyflenwyr lletygarwch. Annelir y Llawlyfrau at cwmnioedd bwyd i fynd a chyflenwyr lletygarwch. Maent yn cynnwys cyngor ymarferol, ar bynciau fel sut i fynd ati i brynu bwydydd lleol, achlysuron arbennig, bwydlenni, a chynyddu gwerthiant. Ffoniwch 0845 0103300 am gopi.
15.11.05 Caffi’r Gwir Flas yn Sioe Flodau RHS Yn dilyn llwyddiant y sioe llynedd ym Mharc Biwt, bydd sioe eleni hyd yn oed yn fwy. Dros benwythnos y Pasg, am y tro cyntaf, bydd Caffi’r Gwir Flas yn gweini bwyd twym ac oer a fydd yn cynnwys y gorau o gynnyrch Gwobrau Gwir Flas 2005/6. Mae tim Ymgynghoriaeth Bwyd Howel wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod y caffi yn cynnig bwyd lleol, ffres a blasus. Dyma gyfle hefyd i brynu bwyd, diod a chrefftau o Gymru o dan yr un to. Dilynwch arwyddion Profiad Cymru.
15.11.05 Arddangosfa ‘Dyma Gymru’, Hong Kong
Mae Nerys newydd ddychwelyd wedi wythnos llwyddiannus iawn yn hybu bwyd a diod o Gymru yn Hong Kong. Bwriad yr arddangosfa, a drefnwyd gan Lywodraeth Cenedlaethol Cymru, oedd i godi ymwybyddiaeth a dealldwriaeth Cymru fel un o Genhedloedd y Byd, yn ystod wythnos Gwyl Ddewi. Yn ogystal a bwyd a diod, roedd yr arddangosfa yn cynnwys twristiaeth, masnachu a datblygiad economaidd, cerddoriaeth a chrefftau. Mae nifer o gynhyrchwyr Cymreig wrthi ers tro yn allforio i Tseina, ac gyda’r holl adborth positif, y gobaith yw bydd y nifer hyn yn cynyddu. Gweithiodd Nerys yn agos gyda tai bwyta yn Hong Kong i gynnwys y coctel Ddraig Goch a prydiau Cymreig ar ei bwydlenni, a llwyddodd i berswadio’r baswr Anthony Stuart Lloyd i ychwanegu blas unigryw at noson jazz yn bwyti Grappas Cellar ar ddydd Gwyl Ddewi.
15.11.05 Taith Archfarchnadoedd
Tra oedd Nerys yn hyrwyddo Cymru yn Asia, bu gweddill y tim yn gweithio’n galed ar daith arbennig yn teithio o gwmpas archfarchnadoedd De Cymru. Taith a drefnodd gan Awdurdod Datblygu Cymru, dros Gwyl Dewi. Bu tri tim allan yn ymweld a gwahanol siopau Sainsbury’s, Asda a Tesco. Roedd yr arddangosfeydd coginio – yn canolbwyntio ar gynnyrch Cymreig, yn llwyddiannus dros ben, gyda’r siopau yn archebu stoc ychwanegol er mwyn cadw’r silffoedd yn llawn!