28.12.06 Medrwn 'Addurniadau Nadolig' 16 Tach
Gyda'r Nadolig yn nesau, bu Nerys yn brysur yn ysbrydoli perchnogion tai gosod gyda nifer o syniadau ar sut i greu naws Nadoligaidd a deniadol. Fe drawsnewidiwyd eitemau pob dydd i addurniadau trawiadol er mwyn dangos sut y gallwch greu yn syml, naws croesawgar dros wyliau'r Nadolig.
28.12.06 Medrwn 'Brecwast i bob tywydd'. 16 Tach
Bu Nerys yn dangos perchnogion gwely a brecwast sut i baratoi brecwast mawreddog a iachus ar gyfer beicwyr gan fanteisio ar y bwydydd blasus lleol sydd ar gael.
28.12.06 Gwobrau Gwir Flas 2006. 23 Tachwedd
Bu'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn dathlu llwyddiant Gwir Flas ar y 23ain o Dachwedd. Cynhaliwyd y noson wobrwyo yng Nghlwb Criced Morgannwg yng Nghaerdydd gyda chynulleidfa o enillwyr Gwobrau Gwir Flas a phobl allweddol y diwydiant bwyd-amaeth yng Nghymru. Bu safon y ceisiadau eleni yn uwch nag erioed ac mae'r gwobrau yn adnabyddus fel un o ddigwyddiadau mwyaf y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Bu gwesteion yn mwynhau'r tapas o Gymru gan gynnwys eog Halen Mon sbeislyd, pate Romy Cuisine, hwyaden wedi'i mygu Black Mountain ac i ddilyn cig oen blasus Dolaucothi. Cafwyd wisgi Penderyn a creme fraiche Rachel's Organic fel rhan o'r pwdin. Creuwyd y fwydlen gan Nerys Howell, Ymgynhoriaeth Bwyd Howel a Colin Gray, gan sicrhau fod Gwir Flas Cymru yn amlwg ym mhob pryd.
28.12.06 Ffotograffiaeth Bwyd Gwir Flas. Medi 06
Yn ystod mis Medi bu Jo a ffotograffydd bwyd, Phil Boorman yn brysur yn y stiwdio yn paratoi ar gyfer lluniau'r Gwir Flas. Llwyddwyd i greu delweddau gwych o'r cynnyrch arbennig ac o ganlyniad bu'r lluniau yn tynnu dwr i'ch dannedd. Gallwch weld gwaith Jo a Phil yn y cylchgrawn Gwir Flas a llenyddiaeth yn ymwneud a'r gwobrwyon.
28.12.06 BBC Good Food Show, Birmingham 22-27 Tac
Bu bwyty Blas yn ymddangos yn sioe'r BBC Good Food eleni (dyma'r trydydd flwyddyn) a profodd i fod yn lwyddiannus unwaith eto gyda 20,000 o ymwelwyr yn bresennol bob dydd. Mae Blas, a'i rheolwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn arddangos a hybu cynnyrch enillwyr gwobrau'r Gwir Flas. Datblygwyd y fwydlen eleni gan Nerys a gyda arlwywyr yr NEC bu'r bwyd a diod o Gymru yn creu argraff mawr ar bawb a fu'n ymweld a Blas.
28.12.06 Clwb Ffermwyr Ifanc, Caerdydd. 3-5 Tach
Eleni bu Clwb Ffermwyr Ifanc yn dathlu 70 mlynedd o weithgareddau a chynhaliwyd gwyl tri diwrnod, 'Y Wlad yn y Dref' tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ar y 3ydd, 4ydd a'r 5ed o Dachwedd. Bu Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn gweithio'n agos fel rheolwyr digwyddiad mewn partneriaeth gyda chyrff eraill.
Bu'r digwyddiad yn cynnwys anifeiliaid, cynhyrchwyr bwyd, arddangosfeydd bwyd, stondinau crefft a mudiadau sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig yn ogystal a gweithgareddau addysgol i'r teulu i gyd. Bu'r digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i bobl y ddinas brofiadu yr hyn sydd gan gefn gwlad i'w gynnig.
28.12.06 Sial, Paris. 22 - 27 Hydref
Tra bod Nerys yn brysur yn Latvia, bu Jo a Rachel ym Mharis yn cynrychioli Cymru ar stondin IBW yn arddangosfa Sial - un o arddangosfeydd fasnach bwyd a diod mwya'r byd. Bu Rachel yn denu ymwelwyr i'r stondin trwy baratoi a choginio pice ar y maen tra bu Jo yn paratoi canapes blasus ar gyfer derbyniad IBW (ar y cyd a Hybu Cig Cymru). Bu gwesteion yn mwynhau'r cawsiau o Gymru, Cig Oen a Chig Eidion o Gymru a hefyd pate Romy Cuisine.
28.12.06 Riga, Latvia. 24 - 27 Hydref
Roedd hyn yn gyfle unigryw i dynnu sylw ar fwyd a diod o Gymru mewn gwlad Ewropeaidd Ddwyreiniol. Bu'r cenhadaeth fasnach yma (a'i drefnwyd gan IBW) yn arwain Nerys i Riga, lle bu'n hybu bwyd a diod o Gymru mewn arddangosfa yn yr Embasi Brydeinig. Bu'r bwyd a diod yn enghraifft arbennig o'r hyn sydd gan Gymru i gynnig.
28.12.06 Celtic Fayre, Yr Ucheldiroedd. 12/15 Hyd
Cynhaliwyd y Celtic Fayre yn Yr Ucheldiroedd eleni. Dyma ffair blynyddol sy'n arddangos bwyd a diod o'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. Eleni, bu cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru (Cheeses from Wales, Trioni, The Authentic Curry Company a Rachel's Organic) yn ymuno a Nerys i gynrychioli Cymru. Cafodd fwyd a diod o Sir Fynwy eu defnyddio mewn arddangosfeydd coginio'r sief enwog, Dudley Newbery. Defnyddiodd Dudley cig oen, porc, llysiau a chynnyrch llaeth o Sir Fynwy yn ei ryseitiau. Noddwyd yr arddangosfeydd coginio gan Adventa.
28.12.06 Cape Town, De Affrica. 9 - 13 Medi
Bu Jo yn ymweld a Cape Town fel rhan o genhadaeth fasnach wedi'i trefnu gan adran Busnes Rhyngwladol Cymru y Cynulliad. Cynhaliwyd derbyniad yn adeilad y Gomisiynydd Brydeinig a profodd y gwesteion 'flas o Gymru' trwy fwyta cawsiau, bara ceirch a siytni nodedig o Gymru ynghyd a gwin Cariad a dwr Ty Nant.
17.11.06 Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2006
Roedd Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006 yn gyfnod prysur iawn i Ymgynghoriaeth Bwyd Howel. Dechreuwyd trwy goginio pice ar y maen ar stondin Bwrdd yr Iaith. Comisiynwyd torrwr arbennig mewn siap logo y bwrdd ar gyfer y digwyddiad, a greuwyd llawer o gyffro o fewn y cyhoedd a ddaeth i’w flasu. Yna, fel rhan o hybu pobl i fwyta yn iachus roedd Nerys wrthi yn gwneud arddangosfeydd ym Mhabell y Cynulliad. Gwahoddwyd cogydd gwadd i’r gegin pob dydd i gynorthwyo Nerys wrth iddi ddangos i’r cyhoedd pa mor rhwydd y mae i goginio pryd iachus a ffres. Roedd y sesiynau yn hynod o lwyddiannus, ac fe adawodd nifer o bobl gyda syniadau newydd ar sut i fwyta’n iachus. Cafwyd gyfle unwaith eto i fwynhau y gorau o enillwyr Gwobrau’r Gwir Flas yn Blas a Bwyd i Fynd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bu Nerys a thim Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn brysur yn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau bwydydd Cymreig o’r dosbarth cyntaf mewn awyrgylch bywiog a chyffroes.
17.11.06 Sioe Frenhinol Cymru - Gwir Flas
Unwaith eto bu Nerys a’r tim yn brysur yn hyrwyddo enillwyr Gwobrau’r Gwir Flas yn y Sioe Frenhinol yn Llanfair ym Muallt. Cafwyd gyfle i flasu yr amrywiaeth o gynnyrch arbennig sydd ar gael yng Nghymru, cynhaliwyd sesiynau coginio ‘Cwrdd a’r Cynhyrchwyr’ a alluogwyd cynhyrchwyr i hyrwyddo eu cynnyrch mewn amgylchedd cyffroes. Yn ogystal a hyn, gwahoddwyd aelodau o’r cyhoedd i feirniadu un o gategoriau Gwobrau’r Gwir Flas 2006 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.