Ymgynghoriaeth Bwyd Howel | Howel Food Consultancy
 
Cartref   English
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel  
2008 | 2007 | 2006 | 2005

12.11.07
Rhaglen Wedi 3
Mae Nerys yn parhau i goginio ar raglen S4C Wedi 3. Mae paratoadau Nadoligaidd eisoes wedi dechrau gyda Nerys yn coginio ei phwdin Nadolig arbennig. Bydd hi’n cyflwyno nifer o syniadau coginio bwyd Nadoligaidd ar y rhaglen fyw ar y 9fed, 15fed a 23ain Tachwedd. Mae’r dathliadau ar dechrau!
Am ragor o wybodaeth am Wedi 3 ewch i: http://www.s4c.co.uk/c_watch_wedi3.shtml
 


09.11.07
Yr Oscars ar gyfer Bwyd a Diod
Bydd y 6ed seremoni wobrau flynyddol Y Gwir Flas yng Nghwb Criced Morgannwg ar  nos Iau 15fed Tachwedd. Fe’i disgrifiwyd hi fel yr Oscars ar gyfer Bwyd a Diod, a bydd yn noswaith hon yn gyfle i ddathlu gorau yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd 500 o westeion o’r diwydiant bwyd a diod yn bresennol, ac mae Nerys Howel a Colin Gray o Capital Cuisine yn gyfrifol am ddatblygu’r fwydlen yn ogystal â’r tasg o oruchwylio’r trefniadau’r noswaith.
 


08.11.07
Bwyd Tafarn Gwell yn Crugywel
Menter newydd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw The Pub Grub Project sydd a’r amcan o wella safon y bwyd a ddarparwyd yn nhafarnau’r ardal.
Bydd Nerys, sydd wedi ei hapwyntio i arwain y prosiect, yn gweithio yn agos gyda Colin Gray o Capital Cuisine. Mae gwaith caled o fwyta ym mhob un o’r wyth tafarn a enwebwyd o amgylch ardal Crugywel dros y tri mis nesaf. Eu hamcan yw nid yn unig i ysgogi y chefs a’r rheolwyr i ddefnyddio cynnyrch lleol mewn modd cyffrous a ffres, ond hefyd i bwysleisio a dathlu natur lleol y cynhwysion a’r bwyd ar eu bwydlenni. Gobeithir ymestyn y prosiect yn y misoedd i ddod.
 


30.10.07
Reseitiau Y Gwir Flas
O ganlyniad i’r galw gan ddarllenwyr, bydd atodiad nesaf Y Gwir Flas yn cynnwys reseitiau am y tro cyntaf, yn ogystal â’r erthyglau traddoidadol am gyflenwyr bwyd. Roddwyd y dasg o baratoi deuddeg resait newydd yn y gyfrol newydd i Nerys. Mae’r reseitiau yn arddangos cynhwysion gorau Y Gwir Flas, gan gynnwys Eog Mwg Poeth Deri Môn gyda Salsa Afacado a Rafioli Agored Madarch Shiitake. Bydd yr atodiad yn cael ei gyhoeddi ar noswaith seremoni gwobrwyo Y Gwir Flas ar y 15fed Tachwedd.
Am gopiau neu rhagor o wybodaeth ewch i: www.cymruygwirflas.com
 


18.10.07
Ffair Fwyd Pwysicaf y Byd
Yn ddiweddar, ar ran Ymgynhoriaeth Bwyd Howel, teithiodd Sian Roberts i Cologne gyda Busnes Cymru Rhyngwladol ar gyfer Anuga FoodTec. Gyda dros 1,000 o arddangoswyr o 43 gwlad a thros 39,000 o ymwelwyr o’r diwydiant yn bresenol, hon yw  ffair technoleg bwyd a diod mwyaf pwysig yn y Byd.
Rôl Sian yn y digwyddiad oedd denu ymwelwyr i’r stand ac hefyd i hyrwyddo cynnyrch  Cymreig y cyflenwyr fel Rachel’s Organic Dairy a whisgi Penderyn. Roedd y stand yn boblogaidd iawn drwy’r cyfnod ac roedd y digwyddiad yn lwyddiant mawr i bawb oedd yn gysylltiedig… o bosib oherwydd arf cyfrinachol Sian – sef  y pice ar y maen yr o’dd hi ei goginio’n ffresh pob dydd!
 
 


15.10.07
Y Sioe Lle Bwyta
Yn mis Hydref cydweithiodd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel gyda Capital Cuisine ar hyrwyddo cynnyrch bwyd Cymreig yn y Restaurant Show. Wedi ei chynnal yn Earl’s Court yn Llundain, mae’r digwyddiadd wedi ei anelu at ddiwydiant llefydd bwyta Prydain yn unig ac mae’n darparu llwyfan gwych ar gyfer arddangos y cynnyrch gorau o Gymru a chyflenwyr Cymreig tuag at farchnad eang.
Roedd Bwyd Howel a Capital Cuisine yn falch iawn o gefnogi’e detholiad cryf o’r cyflenwyr oedd yn bresenol yn cynnwys corff cydweithredol Cheeses From Wales; The Welsh Sausage Company a dŵr Princes Gate o Sir Benfro.
 Roedd arddangosfa Y Gwir Flas yn ddyfeisgar a thrawiadol dros ben. Roedd ganddo arwyddion a chynllun lliwiau beiddgar dros ben, sgriniau plasma, ceginau gyda waliau gwydr – er mwy gwneud y broses o baratoi  yn rhan o’r arddangos – a thair carwsel swshi a wnaethpwyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa er mwyn cynnig cyfle i ymwelwyr flasu mewn arddull tapas.
Mae’r disgwyliadau yn sicr wedi eu codi ar gyfer arddangosfeydd o’i bath yn y dyfodol.
 


02.10.07
Deiet 1927
Mae Nerys wedi ymgymryd a’r dasg o greu casgliad o reseitiau cyffrous ar gyfer y gyfres deledu uchel ei phroffil Coalhouse ar gyfer BBC Cymru Wales. Gan bod y rhaglen yn cymryd teuluoedd heddiw a’i gwneud i fyw fel teuluoedd glofaol yn y 1920au dyw’r reseitiau ddim yn rhai y byddwn ni yn eu hystyried yn gonfensiynol. Yn dilyn ymchwil helaeth, mae Nerys wedi creu casgliad diddorol iawn o reseitiau sy’n nodweddiadol o’r cyfnod ac sy’n cynnwys danteithion fel pen a thafod mochyn yn ogystal â’r braster sy’n amgylchynu afi’r anifail!
Mae’r gyfres yn cael ei ddangos ar BBC Cymru drwy fis Hydref a dechrau Tachwedd a chaiff Nerys ei chlywed ar raglen Hywel a Nia ar Radio Cymru a Jamie a Louise ar Radio Wales yn diweddaru gwrandawyr ar sut mae’r teuluoedd yn delio gyda’r sialens arlwyol a wynebir ganddynt yn y Coalhouse.
 


21.09.07
Blas Eisteddfod Genedlaethol 2007
Am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Wyddgrug, gwelwyd Blas ar ei newydd wedd gyda chyfle i ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o brydiau a baratwyd wrth ddefnyddio cynnyrch o enillwyr y Gwir Flas. Profwyd prydiau fel Brest hwyaden mwg Black Mountain gyda compot kumquat a phasta pesto gyda madarch Shitake Crai, yn boblogaidd gyda’r ciniawyr. Bu Nerys yn gweithio’n agos gyda Colin Gray o Capital Cuisine yn datblygu’r bwydlenni newydd.
 


21.09.07
Y Sioe Frenhinol 2007, Gorffennaf 23-27
Bu’r sioe yn gyfnod prysur i Nerys wrth iddi gyflwyno arddangosfeydd coginio i S4C a Hybu Cig Cymru. Cafwyd thema Eidaledd i’r ryseitiau S4C wrth feddwl ymlaen at ddarllediad Casa Dudley yn yr Hydref. Mae Nerys yn un o’r beirniaid ar y rhaglen ynghyd â  Bryn Williams a Dudley. Ond uchafbwynt yr wythnos oedd beirniadu cystadleuaeth Clwb Ffermwyr Ifanc – paratoi ‘smoothie’ gyda pump llysieuyn neu ffrwyth. Er y tywydd garw gwelwyd ambell llygedyn o haul gyda dyfeisgarwch a chreadigrwydd y cystadleuwyr. Y tro cyntaf i Nerys flasu diod o banas, tomato, moron, gellyg amrwd!
 

31.08.07
Ryseit Newydd
Mae Nerys Howell wrthi'n coginio ryseit newydd i'w chwmni. Yn wyneb datblygiadau'r cwmni, mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel wedi symud i swyddfeydd newydd yn:

Ty Cefn
14-16 Rectory Road
Treganna
Caerdydd

Cofiwch alw draw am baned.

O.N. Mae ganddom dau le parcio (swyddogol)!!
 

23.07.07
Gwyl Rhyngwladol Bwyd a Diod Caerdydd
14-15 Gorffennaf 2007
Roedd bwrlwm yn yr awyr ym Mae Caerdydd dros y penwythnos wrth i’r Wyl Rhyngwladol Bwyd a Diod ddychwelyd yno trwy ddenu dros 20,000 o bobl. Gweithiodd Nerys yn agos gyda Cyngor Caerdydd i drefnu cyfres o ddosbarthiadau meistr ac arddangosfeydd coginio dyddiol. Cafodd ymwelwyr gyfle i ddysgu am y broses arbennig o wneud caws a whisgi yng Nghymru, yn ogystal a chodi syniad neu ddau o’r arddangsfeydd coginio.
 


23.07.07
'Taste of London' - Mehefin 2007
Dychwelodd ‘Taste of London’, a noddwyd gan British Airways, i Regents Park am y bedwerydd flwyddyn. Ynghlwm a’r digwyddiad oedd y gorau o gynnyrch y prif ddinas, arddangosfa o brif tai bwyta a chogyddion Llundain, yn paratoi ei prydiau unigryw. Ymddangosodd Cymru am y tro cyntaf,  gyda Nerys ar tim yn blasu y goreuon o ennillwyr y Gwir Flas, o salami Ffarm Trealy i gacen gludiog almwn Clam’s. Profwyd unwaith eto bod safon bwyd a diod o Gymru gyda’r gorau, gyda ymwelwyr yn tyrru i’r danteithion oedd ar gael, ac yn awyddus i’w prynu!

Llun gan: Philip Tull
 


23.07.07
Taith Hybu Cig Cymru – Mehefin 2007
Teithiodd tim Ymgynghoriaeth Bwyd Howel led led Cymru a'r ran Hybu Cig Cymru a’r Cynulliad, yn hyrwyddo cig oen y gwanwyn ‘Taste the difference’ Sainsbury’s. Cafodd gwsmeriaid cyfle i flasu amryw o fwydydd oedd yn canolbwyntio ar ennillwyr y Gwir Flas yn ogystal a chig oen Cymreig. Profwyd y daith yn llwyddiannus dros ben, gyda chwsmeriad yn mynegi ‘nad oes dim byd gwell na chig oen o Gymru’.
 


23.07.07
Blas yng Ngwyl y Gelli - Mai 2007
Profwyd bod Blas nawr wedi dod yn ganolbwynt y profiad o fwyta yng Ngwyl y Gelli, wrth iddo ddychwelyd am y pedwerydd blwyddyn yn olynol. Cafwyd golwg newydd Blas ei lawnsio eleni, gyda gwasanaeth mwy hygyrch, a phwyslais ar fwyta rhyngweithiol. Gweithiodd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn agos gyda Llywodraeth Cenedlaethol Cymru i ddatblygu’r syniad newydd sy’n siop ffenest i’r gorau o gynnyrch y Gwir Flas.
 


23.07.07
Hong Kong - Mai 2007
Dewisiwyd Hong Kong fel atyniad i hyrwyddo bwydydd o Gymru eto eleni. Gwahoddwyd cwmnioedd Cymreig am y tro cyntaf i arddangos yn y Sioe Fasnach Hofex, lle bu Nerys yn hyrwyddo cynnyrch nifer o gwmnioedd. Yn bresennol, roedd cwmnioedd sydd eisioes yn allforio eu cynnyrch a chwmnioedd sydd yn bwriadu gwneud yn y dyfodol agos. Llwyddodd y daith i adeiladau ar yr ymwybyddiaeth a dealldwriaeth o fwyd a diod o Gymru a gyflwynwyd yn arddangosfa ‘Dyma Gymru’ llynedd.
 


20.04.07
Sioe Deithiol Twristiaeth Croeso Cymru
Yn dilyn Sioe Deithiol Twristiaeth Croeso Cymru llwyddiannus llynedd bu’r daith yn dychwelyd ym mis Mawrth eleni gan ddefnyddio bwydydd a’r diodydd lleol gorau a’u gweini ar  ffurf ‘tapas’.  Bu Nerys yn cydweithio’n agos â thimau y canolfannau i gyd  - Technium, Bangor;  The Metropole, Llandrindod Wells; Stadiwm Liberty, Abertawe a Chepstow Racecourse i ddatblygu a cyflwyno’r bwydlen ym mhob lleoliad.  Bu ymwelwyr y sioe deithiol yn mwynhau eog a brithyll mwg Black Mountain, wyau soflieir mwg Deri Môn, cig Gwartheg Duon Cymreig, pates Patchwork, cawsiau enillwyr Gwir Flas a llawer mwy.   Yn dilyn adborth ymwelwyr a’r sioe, profwyd y sioe deithiol yn un llwyddiannus gyda’r bwyd yn ennill clod o 72% ‘Rhagorol’ ac 18% ‘Da’.
 


02.03.07
Sioe Deithiol Gwir Flas - Chwe/Maw 2007
Fel rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi, bydd Sioe Deithiol y Gwir Flas yn rhoi cyfle unigryw i siopwyr yn Ne Cymru i brofi rhai o'r bwydydd a'r diodydd gorau o Gymru ar gael yn archfarchnadoedd - gan gynnwys cynnyrch enillwyr Gwobrau'r Gwir Flas.  Wedi'i drefnu a'i gydlynu ar ran Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cenedlaethol Cymru gan Nerys Howell o Ymgynghoriaeth Bwyd Howel, mae trelar y sioe deithiol yn cynnwys cegin bwrpasol a bydd yn ymweld a'r archfarchnadoedd canlynol;

Co-op, Pil 22, 23, 24 Chwefror
Sainsbury's, Penybont 25, 26, 27, 28 Chwefror
Asda, Merthyr 1, 2, 3 Mawrth
Waitrose, Y Fenni 4, 5, 6, 7 Mawrth
Morrisons, Bae Caerdydd 8, 9, 10 Mawrth
Tesco, Caerfyrddin 11, 12, 13, 14 Mawrth
Tesco, Llanelli 15, 16, 17 Mawrth


Bydd llyfrynau ryseitiau a cylchgronnau y Gwir Flas ar gael yn rhad ac am ddim a bydd Hybu Cig Cymru, sy'n cefnogi'r daith yn cyflenwi ryseitiau a grewyd yn arbennig ar gyfer Dydd Gwyl Dewi.
 


30.01.07
Ras am flas! Ionawr 15 2007
Bu aelodau Cyngor Sir Fynwy yn ymarfer eu sgiliau coginiol yn ystod diwrnod cydweithredu yn ddiweddar.  Cafwyd cyflwyniad gan Nerys ar 'Naws am Le' ac yna gofynnwyd i'r timoedd gynllunio bwydlen, paratoi, coginio a steilo bwrdd gan ddefnyddio bwydydd o Sir Fynwy ac eitemau crefft lleol.  Cafwyd y tasgiau eu gosod gan Nerys gan gynnwys 'Brecwast i gerddwyr mynydd', 'Cinio picnic i golffwyr' a 'Chinio rhamantus i ddau i ddathlu dydd Santes Dwynwen'.  Yn ystod yr awr ginio buodd y cyfranwyr wrthi'n blasu ac yn sgwrsio am y prydau a baratowyd gan aelodau o'r timoedd.
 


2008 | 2007 | 2006 | 2005
Safle gan Innivo