21.11.08 Taith Tân…
Ar ol paratoi 66 o drefniadau‘tanllyd’ i Wobrau’r Gwir Flas roedd gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel fynydd o tsilis coch ar ol. Beth oedden ni am wneud gyda’r holl tsilis?? Wel, rhannwyd y cyfan gyda chydweithwyr, teuluoedd a ffrindiau a dyma beth ddigwyddodd..… Fe fwytodd ci Sarah rhai… Ddaru Chris ac Alison sychu nhw yn yr Aga… Fe biclodd Mam Duggie nhw… …ond malu nhw’n fân a rhewi nhw ddaru Duggie Ath Nerys ati i wneud trefniant blodau arall… Ddaru Berwyn neud chilli ffantastic a rhannu’r gweddil gyda ffrindiau yn Nhreganna… Ddaru Jean gwneud jam tsili Ac aeth Jasmin i goginio corgimwch tanllyd tsili a garlleg! Sychu nhw yn ei Aga gwnaeth Helen hefyd – ond dyw hi heb benderfynnu beth mae hi am wneud gyda nhw eto! Fodca tsili oedd syniad Gwion… Mae Andrew yn tyfu’r tsilis… Siytni sbeislyd nionod wedi’i carameleiddio ddaru Angharad… Gafodd Sian go ar neud bisgedi siocled a tsili… Mae Nia wedi sychu nhw i hongian ar ei choeden Nadolig! Ddaru Gerry jambalaya… Ond aeth rhan fwyaf ohonyn nhw fewn i cyrris! Phew!
16.10.08 Noson Brenhinol yn Highgrove
Ty gwledig EUB Tywysog Cymru oedd y lleoliad ar gyfer noson codi arian Cadwgan ar 16eg o Hydref. Rhoddodd y Tywysog ganiatâd i’r Ymddiriedolaeth, a ffurfiwyd i godi arian i achub Castell Aberteifi, i ddefnyddio Highgrove am fod ganddo ddiddordeb personol yn datblygiadau’r castell. Cafodd 100 o westeion noson o fwyd a cherddoriaeth Cymreig gan gynnwys bwydlen a ddatblygwyd yn arbennig gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ac arlwywyr Highgrove gyda’r pwyslais ar gynnyrch Ceredigion. Gweinwyd triawd o gig oen Mynyddoedd y Cambrian fel brif gwrs. Menter ffermwyr a ysbrydolwyd gan EUB Tywysgog Cymru yw Menter Mynyddoedd Cambrian. Claire Jones, telynores y Tywysog oedd adloniant y noson gyda chôr newydd, Cadw Gan.
12.10.08 Bwyd Braf Bryste
Rydyn yn fwy cyfarwydd o weld Aldo Zilli, Paul Rankin, Mary Berry a Lesley Waters ar ein teledu ar rhaglenni fel ‘Ready Steady Cook’ neu ‘Saturday Kitchen’ ond am bedwar diwrnod ym mis Hydref ymddangosant fel rhan o rhaglen gwyl fwyd newydd ‘The Joy of Food’ yng nghanolfan siopa ‘The Mall’ ym Mryste. Bu Nerys yn cyflwyno’r cogyddion enwog gan gynorthwyo un neu ddau ohonyn nhw hefyd! Rhai o’r prydau cafodd eu paratoi oedd terrine eog ffres gyda dill (Mary Berry), torth Brioche gyda caws gafr o Orllewin Lloegr, mêl o Dorset a sinamon (Lesley Waters), sgwid wedi’i grilio gyda saws chilli melys a roced (Aldo Zilli) a brest hwyaid wedi’i puprio gyda madarch gwyllt a hufen (Paul Rankin).
12.10.08 Cig Oen Cymru yn Hyde Park
Cafodd rhedwyr marathon cyntaf y Royal Parks siawns i flasu cig oen Cymreig a chynnyrch ennillwyr Y Gwir Flas wrth i sioe deithiol Y Gwir Flas gyrraedd Hyde Park, Llundain. Mewn partneriaith gyda Hybu Cig Cymru cafodd trigolion Llundain gyfle i flasu granola Oats So Good, iogwrt Rachel’s, llaeth Daioni, smoothies Frobishers, dwr Ty Nant, cawsiau a barabrith ynghyd a phrydau o gig oen Cymreig wedi’i paratoi gan Elwen Roberts, Hybu Cig Cymru.
05.10.08 Taith Gwir Flas
I ddathlu Pythefnos Bwyd Prydeinig yng Nghymru (Medi 20fed – Hydref 5ed) bu taith Gwir Flas Llywodreath Cynulliad Cymru yn ymweld â saith siop Tesco o amgylch Cymru, o Hwlffordd i Gaer. Roedd tîm Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn cynnig blas ar cyris yr Authentic Curry Company, cawsiau Cymreig, cig oen Cymreig, cig eidion tro ffriedig, cennin a blodfresychau The Really Welsh Company a llawer, llawer mwy. Cawsom ymateb positif iawn o’r siopwyr ac o ganlyniad cyflwynwyd nifer o gynnyrch newydd ar silffoedd rhai o’r siopau.
26.09.08 Gwyl Gwobrau Caws Prydeinig
Am y tro cyntaf eleni, croesawodd Cyngor Sir Caerdydd, Wyl Gwobrau Caws Prydeinig i’r ddinas. Cynhaliwyd yr Wyl ar Fedi 26ain i'r 28ain yng Nghastell Caerdydd. Mae'n un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i gynhyrchwyr, prynwyr ac unrhywyn sy’n hoff o gaws gyda dros 450 o gawsiau o dros Brydain gyfan! Fel rhan o ddigwyddiad 'cwrdd a'r cwsmer' cafodd YBH eu comisiynu i greu trefniad ar thema caws – a dyma lun o'r canlyniad - cacen briodas caws ysblennydd!
24.09.08 Bwyd yn ei dymor
Ar ôl cael cais gan Adventa, sef menter datblygu gwledig Sir Fynwy, i baratoi llyfryn o ryseitiau sylfaenol ar gyfer rhieni a phlant, treuliodd YBH oriau yn y gegin yn datblygu ryseitiau – gan dalu sylw i fwyd tymhorol a cheisio cadw’r costau’n isel.
A’r canlyniad? 28 o ryseitiau tymhorol mewn llyfryn lliwgar sy’n llawn syniadau ac awgrymiadau! Bydd copïau ar gael i’w prynu yng Ngŵyl Fwyd y Fenni (20-21 Medi) lle bydd Nerys yn dangos sut i goginio rhai o ryseitiau’r casgliad. Beth am roi cynnig ar y pryd hydrefol syml ac ysgafn hwn? …
Cig Oen Cymreig Thai Gyda madarch shiitake Crai
Gweini: 4 Amser: 10 munud Cynhwysion 450g ffiled Cig oen Cymreig, wedi ei dorri i stribedi tenau 5ml/1llwy de olew llysiau 15ml/1 llwy fwrdd past cyri thai coch 150ml llaeth cnau coco 150g madarch shiitake organig Crai, wedi sleisio 1 pupur coch, wedi ei dorri’n hanner, heb hadau, ac wedi sleisio Dull Ychwanegwch yr olew i badell ffrio fawr neu wok a, dros wres uchel, ffriwch y cig oen am tua 4 munud tan ei fod yn frown.
Ychwanegwch y pupurau a’r madarch a ffriwch am funud arall.
Cymysgwch y past cyri Thai coch a’r llaeth cnau coco tan iddo fudferwi ar wres isel.
Coginiwch am 2 – 3 munud a gweinwch gyda nwdls wy canolig neu reis wedi berwi.
24.09.08 Sioe Frenhinol Cymru
A hwythau yn Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf, roedd cwmni enfawr archfarchnadoedd ASDA yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i ffermwyr cig eidion a chig oen Cymru. Datblygodd YBH nifer o ryseitiau’n defnyddio gwahanol ddarnau o gig a bu Nerys yn eu coginio mewn sesiynau arddangos yng nghegin Asda dros y pedwar diwrnod. Roedd y pwyslais ar baratoi prydau sydyn, blasus – yn cynnwys coginio coes cig oen mewn dim ond tri chwarter awr! Dyma’r ryseit os hoffwch roi cynnig arno: Coes cig Oen Cymreig 1 coes cig oen gyda’r asgwrn wedi’i dynnu allan (gofynnwch i’ch cigydd i wneud hyn) 4 clof o garlleg 1 llwy de o Halen Môn speislyd – wedi’i falu 2 llwy de o rhosmari – wedi’i dorri’n fan Croen a sudd un lemwn 100ml olew olewydd Pupur du
Mewn powlen cymysgwch y garlleg, halen, rhosmari, croen a sudd y lemwn, olew olwedydd a’r halen gyda’i gilydd. Rhowch y cig oen mewn disgyl mawr, slaesiwch y rhannau trwchus fel bod y cig yn coginio’n wastad. Rhwbiwch y gymysgedd i fewn i’r cig gan wneud yn siwr ei fod wedi cyrraedd pob twll a chornel. Rhowch glawr ar ei ben ai adael yn yr oergell hyd at 48 awr.
Twymwch y popty i 200°/nwy rhif 6. Tynnwch y clawr a rhostiwch yn y popty am 40 munud os hoffwch y cig yn pinc yn y canol, neu 15 – 20 munud yn hirach os oes yn well gyda chi’r cig wedi goginio drwyddo. Gadwech y cig i orffwys am 10 munud cyn ei dorri.
Mae’r ryseit yma yn berffaith i’w goginio ar y barbiciw.
12.06.08 Blas, bwyd o Gymru
Cafodd proffil a gwerthiant bwyd a diod Cymreig hwb mawr mewn dwy o ddigwyddiadau mwyaf Cymru ddechrau’r haf hwn. Er nad oedd yr haul yn tywynnu drwy’r amser roedd y tyrfaoedd yn dal i heidio i bafiliwn Blas yng Ngŵyl Flodau’r RHS a Gŵyl Lyfrau’r Gelli. O brydau chwaethus, tapas a gwin i frechdanau a choffi, cynigodd Blas ddetholiad arbennig o’r cynnyrch gorau o Gymru. Nerys Howell sy’n gyfrifol am gydlynu Blas gyda Capital Cuisine yn darparu’r arlwyaeth. Mae Blas yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo bwyd a diod sydd wedi ennill gwobrau y Gwir Flas. Os wnaethoch chi fethu’r profiad yn y digwyddiadau blaenorol neu eisiau dychwelyd am fwy, sicrhewch eich bod yn ymweld â Blas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd o’r 2il i’r 9fed Awst.
09.06.08 Masnach Deg i Gynhyrchwyr
Cryfhawyd enw da Cymru fel Cenedl masnach deg gyda’r Gynhadledd Masnach Deg fwyaf erioed yn y wlad, pan y cynhaliwyd yng Nghasnewydd ar y 7fed o Fehefin. Bwriad y digwyddiad oedd codi proffil i’r ymgyrch i chwilio am gydraddoldeb mewn masnach rhyngwladol, ac i osod lleiafswm i bris a delir i ffermwyr am eu cynnyrch. Chwaraeodd Nerys Howell ran pwysig yn y digwyddiad drwy gynnal arddangosfa bwyd. Er mwyn tynnu sylw at sut mae bwyd masnach deg, organig a chynnyrch lleol yn cydweithio, coginiodd hi nifer o brydau yn cynnwys pasta masnach deg gyda chaws gafr Pantysgawn. Bu ‘r arddangosfa goginio yn boblogaidd iawn, a llwyddodd y digwyddiad ar y cyfan i argyhoeddi ac addysgu defnyddwyr am fanteision cefnogi yr ymgyrch a phrynu cynnyrch masnach deg, organig a lleol. Am fwy o wybodaeth: www.masnachdegcymru.com
29.04.08 The Real Food Festival 24 – 27 Ebrill
Gŵyl fwyd newydd sbon sydd wedi wedi ei ddisgrifio fel ‘y farchnad ffermwyr fwyaf erioed’. Cefnogwyd y digwyddiad hwn, sydd wedi ei anelu at y cyhoedd yn hytrach na’r diwydiant, gan Lywodraeth y Cynulliad gyda thîm o Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn rheoli arddangosfa a pharatoi rhaglen o flasu cynhyrchion o Gymru. Y bwriad oedd i hyrwyddo’r cynnyrch o Gymru a thynnu sylw’r mynychwyr at y cynhyrchwyr oedd yn enillwyr y Gwir Flas oedd yn bresennol yno. Roedd Sioned Mair a Sophie Elsmore o’r Ymgynghoriaeth yno i baratoi samplau o gawsiau Cymreig, charcuterie, ffagots, cig dafad, halen môr, picer ar y maen, cwrw, dŵr, tomatos a pâté – yr rhain oll yn enillwyr y Gwir Flas. Cafwyd diddordeb mawr gan bawb, a profodd y cynnyrch i fod yn boblogaidd dros ben!
28.04.08 FHA Singapore 22-25 Ebrill 2008
Eleni am tro cyntaf bu Busnes Rhyngwladol Cymru, Adran Datblygu Bwyd a’r Farchnad Llywodraeth y Cynulliad, Hybu Cig Cymru yn ogystal â 6 chwmni bwyd a diod arall o Gymru yn arddangos yn yr FHA (Food Hotel Asia – Trade). Gofynnwyd i Ymgynghoriaeth Bwyd Howel i osod a gweithredu ardal blasu ac arddangos yno. Y bwriad oedd i hybu diddordeb a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru mewn modd eglur a chadarnhaol o fewn y farchnad newydd hon. Cadwyd Jo Roberts o’r Ymghynghoriaeth yn brysur iawn drwy gydol y digwyddiad - yn coginio Cig Oen Cymru a picer ar y maen, a chynnig samplau o gwrw Tomos Watkin, Halen Môn, Granola ‘Good Carb’ ac ysgytlaeth Daioni. Bu’r digwyddiad yn un llwyddiannus iawn, gyda’r cynhyrchwyr yn cynyddu’u datblygiad yn y farchnad Asiaidd.
29.02.08 Gala Falstaff Opera Genedlaethol Cymru Mae Nerys wedi bod yn prysur weithio ar brosiect arall ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Ar y cyntaf o Fawrth eleni bydd Bryn Terfel yn perfformio Falstaff am y tro cyntaf yng Nghymru (ewch i wefan y WNO am fwy o wybodaeth http://www.wno.org.uk/what.otherPerformance.172.html). Mae Nerys wedi bod yn dyfeisio bwydlen addas ar gyfer gwledd a byffe wedi’r Gala operatig hwn. Gan ddefnyddio bwydydd arobryn y Gwir Flas. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi bod yn helpu dyfeisio canapés gwahanol a fydd yn cael eu gweini cyn y perfformiad ac yn y ddau doriad sydd yn y rhaglen. Gwledd i bob synnwyr fydd y noson arbennig hon!!Fel rhagflas i hyn roedd erthygl yng nghylchgrawn atodol y Western Mail dydd Sadwrn 23 Chwefror yn arddangos rhai o ryseitiau Nerys ynghyd a sgwrs ynglŷn â sut y gall fwydlen ddydd Gŵyl Dewi gynnwys mwy na chennin a bara brith.
26.02.08 Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2008
Dros yr wythnosau diwethaf mae Nerys a’r cwmni wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar drefniadau Dydd Gŵyl Dewi. Mae cawsiau, gwin, seidr, a chwrw arobryn yn teithio tua’r Dwyrain i Riga yn Latfia ar gyfer digwyddiad a drefnir gan Fusnes Rhyngwladol Cymru. Ond yn teithio yn bellach ac i’r Gorllewin mae mwy o gawsiau arobryn a bara lawr sy’n mynd i Efrog Newydd a Boston. Fel rhan o ddathliadau Wales Week USA, mae Nerys a’r tîm wedi bod yn gweithio gydag arlwywyr o Efrog Newydd a Boston i greu bwydlenni â blas Cymreig arnynt.Bydd gan weithwyr Wall Street gyfle i flasu unig chwisgi brag sengl Cymru, Penderyn yn ogystal â phate Patchwork a chawsiau o Abergavenny Fine Foods, dwr Llanllŷr a Tŷ Nant a chwrw Tomos Watkin. Uchafbwynt yr wythnos bydd cinio unigryw i newyddiadurwyr bwyd a diod a gynhelir yn Gordon Ramsey at The London. Mae Nerys yn gweithio ar y cyd gyda Josh Emett, y prif gogydd, i ddatblygu bwydlen sy’n arddangos bwyd a diod o Gymru gyda seigiau cyfoes wedi’u seilio ar ryseitiau traddodiadol.
17.01.08 Prosiect Y Tithe Barn, Y Fenni
Mae Nerys wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda Colin Gray o Capital Cuisine ar brosiect y Tithe Barn ers haf 2007. Maent yn gweithio ar ran Llywodraeth y Cynulliad i greu canolfan i arddangos bwydydd y Gwir Flas a bwydydd lleol eraill yn Y Fenni. Fe fydd y Tithe Barn yn rhan o Ganolfan Priordy'r Santes Fair, ac mae ar hyn o bryd yn cael ei adnewyddu yn Ganolfan Dehongli Treftadaeth a chanolfan groeso i Ymwelwyr. Bydd y ganolfan y gartref i neuadd fwyd a fydd yn arddangos bwydydd lleol a bwydydd sydd wedi ennill gwobrau. Gobeithir y bydd y ganolfan ar agor erbyn mis Mai 2008. Mae Colin a Nerys wedi bod yn gweithio’n agos gyda phenseiri lleol i ddylunio café a chanolfan arddangos a fydd yn addas ar gyfer dangos cynnyrch sir Fynwy a chynnyrch y Gwir Flas. Maent wrthi yn edrych am gwmnïau addas i reoli a gweithredu’r neuadd fwyd. Cadwch lygad allan am y newyddion diweddaraf.
17.01.08 Blwyddyn Newydd Dda
Blwyddyn Newydd Dda a chroeso i 2008!! Gobeithio i chi gael Nadolig Llawen ac amser i ymlacio cyn dechrau o’r newydd eleni. Fel y gwyddoch, mae tymor orennau Sefil yn fyr iawn, ac felly ar ymddangosiad cyntaf Nerys ar Wedi 3 eleni fe ddangosodd i’r gwylwyr sut i fynd ati i baratoi marmalêd traddodiadol, yn ogystal â rysáit newydd am farmalêd gyda llugaeron. Gallwch wylio rhaglen Ionawr 15 trwy ymweld â mms://s4c.unique-media.tv/s4c_uk/wedi3/wedi3_tue.asf, trwy gysylltu gyda ni trwy’r wefan, neu trwy ffonio cwmni teledu Tinopolis ar 01554 880 880 am gopi caled o’r ryseitiau. Bydd Nerys yn ymddangos ar Wedi 3 ar 29 Ionawr hefyd.