Cynhwysion 1.5L seidr lleol* 100g siwgr demerara 1 ffon o sinamon wedi hanneri 6 clôf 1 seren anise 1llawrif 150ml o whisgi Penderyn (am gic ychwanegol os y dymunwch) Darnau o afal i addurno
Dull Rhowch y seidr mewn sosban fawr, ychwanegwch y siwgr. Clymwch y sbeisys a’r llawrif mewn mwslin ac ychwanegwch i’r seidr. Twymwch yn araf am tua 20 munud tan bod y siwgwr wedi toddi. Arllwyswch y whisgi i’r seidr a thynnwch oddi ar y gwres. Gweiniwch yn syth gyda’r darnau o afal. * Am manylion cynhyrchwyr seidr yn eich adral chi ewch i www.welshcider.co.uk
10.12.09 ‘Cymru ar Blât’ yn ennill gwobr!
Mae newyddion newydd ein cyrraedd bod llyfr Nerys – Cymru ar Blat wedi ennill gwobr yn y Gormand World Cookbook Awards 2010 yng nghatagori ‘ Llyfr Coginio Lleol Gorau’! Mae’r Gwobrau yn cael eu cynnal ym Mharis fis Chwefror – a chawn gwybod os ydy’r llyfr wedi ennill y teitl ‘Gorau yn y Byd’!
Mae na ddigon o amser i brynnu copi or llyfr ar gyfer y Nadolig drwy: www.carreg-gwalch.com
03.10.09 Gŵyl Fwyd Aberhonddu
Uchafbwynt yr ŵyl lwyddiannus hon i Ymgynghoriaeth Bwyd Howel oedd yr ornest goginio rhwng Derek Brockway a Ruth Wignall. Adnabyddus am eu sgiliau darogan y tywydd mae’r ddau yma ac nid am eu sgiliau yn y gegin ond gan mai ail ornest oedd hon iddyn nhw, roedd gobaith y byddai gwell siap ar bethau eleni. Rhag ofn nad oedd, fe gafodd Derek gymorth Nerys ac ar y funud olaf daeth Tony Davies o The Coach House, Aberhonddu i helpu Ruth. Y canlyniad pendant ar ddiwedd yr ornest oedd y dylai Derek aros gyda’r tywydd a gadael y coginio i rywun arall!
Bu Tony Davies hefyd yn cymryd rhan ym Mrwydr Brecwast y Bannau. Y Coach House, Aberhonddu yn erbyn Penycae Inn, Abercraf (enillydd gwobr Gastro Pub y flwyddyn) oedd hi, a Tony Davies aeth â hi gyda’i Wyau Brychan. Rhagor o lwyddiant i’r Coach House sydd eisoes wedi ennill 5 seren gan Croeso Cymru a’r AA.
27.09.09 Gŵyl Cymru
Eleni, roedd holl bwyslais yr ŵyl ar gynhyrchwyr bwyd a diod lleol a’r cysylltiad rhwng y garddwr a’r cogydd oedd yn cael sylw Ymgynghoriaeth Bwyd Howel. Y garddwr dan sylw oedd Mel Saunders sydd â 6 rhandir yn Tondu - mae pob un yn llawn llysiau o bob math a maint. Roedd cyfle i Nerys goginio gyda ambell i lysieuyn anferth – parodd un winwnsyn 2 gilogram ddiwrnod cyfan iddi. Yn y sesiwn blasu, roedd hi’n bosib cymharu gwahanol fathau o lysiau. Roedd gan Mel 6 math o datws i’w gynnig a 3 math o domato!
19.09.09 Gŵyl Fwyd y Fenni
Yn Neuadd y Farchnad yn y Fenni yn ystod yr ŵyl, roedd cyfle i weld Nerys yn coginio rhagor o ryseitiau o’i llyfr. Roedd hefyd yn gyfle i’r rhai brynodd gopi i gael llofnod arno. Gellir prynnu’r llyfr o www.careg-gwalch.com
09.09.09 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a’r Cyffiniau
Ym mhabell Caffi’r Gwir Flas roedd cyfle unwaith eto i eisteddfotwyr fwynhau amrywiaeth o brydau bwyd a baratowyd gan ddefnyddio cynnyrch enillwyr Gwir Flas. Bu Nerys yn cydweithio â chwmni Capital Cuisine i lunio seigiau a bwydlenni fyddai at ddant yr ymwelwyr.
Menter newydd ar y maes yn y Bala oedd stondin Blas ar Feirionydd, yn cynnig arddangosfa gan gynhyrchwyr lleol yn ogystal ag enillwyr Gwir Flas. Lansiwyd y fenter hon ar ddydd Sadwrn cyntaf yr eisteddfod ac ar gais Annog, Cyngor Gwynedd, cynhaliwyd gweithdy arbennig. Does dim byd gwell na brecwast da i’ch paratoi ar gyfer y diwrnod, felly beth allai fod yn well cyn diwrnod ar faes y Bala na Brecwast Eisteddfod Meirionydd. Tasg Bwyd Howel yn y gweithdy oedd datblygu brecwast yn defnyddio cynnyrch lleol - brecwast fyddai’n cael ei weini gan fusnesau lletygarwch yr ardal yn ystod yr eisteddfod ac wedi hynny. Ymhlith y ryseitiau a baratowyd gan Nerys yn ystod y sesiynau roedd cejerî brithyll wedi’i fygu o Gill’s Plaice, brechdan frecwast agored a bruschetta brecinio. Cafodd y cyfan groeso brwd:- “Rhoddodd syniadau i ni sut y gallwn amrywio’r brecwast cig moch ac ŵy traddodiadol.”
“....syniadau da, syml y bydda i’n gallu eu defnyddio.” “Roedd llawer o syniadau da ar gyfer brecwast ac ar gyfer y siop goffi.”
Yn dilyn y gweithdy, mae Annog wedi cynhyrchu llyfryn ryseitiau yn cynnwys nifer gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel. Dosbarthwyd hwn ar e-bost i’r darparwyr lletygarwch sydd ar fas data Annog. Roedd e ar gael hefyd yn y stondin yn ystod yr Eisteddfod.
04.08.09 Lletygarwch
Bu Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn cydweithio â Gwir Flas, Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu adnodd gwerthfawr iawn ar gyfer busnesau lletygarwch ac fe’i lansiwyd ar faes yr Eisteddfod. Llyfryn sy’n dangos gwerth defnyddio cynnyrch lleol ac sy’n rhoi cyngor ar brynu a defnyddio’r cynnyrch hwnnw’n effeithiol yw Lletygarwch. Mae ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg i ddarparwyr lletygarwch Or Cynulliad neu ar www.cymruygwirflas.co.uk
24.07.09 Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru
Twristiaeth bwyd oedd y thema yn y Theatr Fwyd yn y Sioe eleni ac roedd gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel raglen o weithgareddau bywiog yn cynnwys arddangosfeydd, gweithdai a dosbarthiadau meistri gan Shaun Hill, James Sommerin ac Ian Simpson.
Mae’r cysylltiad rhwng cynhyrchwyr bwyd a diod a chogyddion yn un holl bwysig ac mae hynny’n hollol amlwg yng ngwesty Peterstone Court y tu allan i Aberhonddu. Yno mae’r cogydd Ian Simpson yn dibynnu’n llwyr ar ffarm y teulu, Glaisfer Uchaf, sydd saith milltir i ffwrdd. Oddi yno y daw’r ffowls, y cig oen, y cig eidion, yr hwyaid a’r llysiau sy’n cyrraedd ei gegin. Yn y Sioe cafodd Nerys gyfle i holi rheolwr y ffarm a’r cogydd ei hun am y cydweithio agos rhyngddynt ac am ddefnyddio pob darn o’r anifail.
Daeth cogyddion a chynhyrchwyr eraill hefyd at ei gilydd i gynnal arddangosfeydd ac i sôn am eu gwaith: Bu Shaun Hill yn sôn am ei gysylltiad â’r Ganolfan Feniswn Cymreig, bu James Sommerin yn trafod Caws Mynydd Du a chynnyrch Llaeth y Llan gafodd sylw Brian Webb.
20.07.09 Lawns Cymru ar Blat! Or diwedd mae’r llyfr wedi cyrraedd, ac yn cael ei lawnsio heddiw yn y Sioe Frenhinol. Yn Cymru ar Blat, mae’r gegin Gymreig a’i choginio a’i thraddodiadau fel Bara Brith, Cig Oen Rhost a Chocos yn cael eu cyfuno gyda ryseitiau cyfoes, cyffrous Nerys sy’n seiliedig ar gynnyrch Cymreig. Mae eisioes wedi cael ei dewis i fod yn Llyfr y Mis WHSmith yn mis Awst. Felly gwnewch yn siwr bod chi’n prynu copi o’r gyfrol hon, sydd yn ysbrydoliaeth i unrhywun sydd a diddordeb yng Nghymru a’i threftadaeth.
19.07.09 Gŵyl Celf Caerleon
Y ddafad oedd thema’r ŵyl eleni a threfnwyd pob math o weithgareddau i ddathlu un o’n creaduriaid amlycaf. Yng nghysgod llun dafad anferth ar y bryn, treuliodd Nerys ddiwrnod yn coginio seigiau gyda Chig Oen Cymru ar ran Hybu Cig Cymru.
17.07.09 Lawnsio Reach
Trefnwyd arddangosfa o fwydydd lleol gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel i lawnsio Reach, rhaglen ddatblygu Pen-y-bont wledig. Dangoswyd cynnyrch gan Lakeside Farm Park, Planhigfeydd Ton, Merthyr Mawr, Tŷ Tanglwyst, Ferranti Pencoed, Pencoed Growers a Bethesda dan ofal Marchnad Ffermwyr Pen-y-bont a Phantderwen. Fel rhan o’r dathlu, paratowyd pryd yn defnyddio cynnyrch yr ardal gan Sioned. Dechreuodd gyda paté Brithyll, relish eirin mair a salad lleol. Y prif gwrs oedd stecen ffiled gyda menyn tsili a llysiau rhuban ac i orffen roedd riwbob gyda siocled gwyn.
12.07.09 Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion
Yn ystod yr ŵyl yn Aberaeron lansiwyd llyfryn o ryseitiau gan Uned Bysgodfeydd y Cynulliad – Ryseitiau pysgod a physgod cregyn lleol o safon. Datblygwyd y ryseitiau gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ac er eu bod wedi eu hysbrydoli gan brif gogyddion Cymru, maen nhw’n rhai hawdd i’w dilyn ac yn ddefnyddiol dros ben. Ymgynghoriaeth Bwyd Howel oedd hefyd yn gyfrifol am ddylunio’r bwydydd ar gyfer y lluniau.
22.06.09 Taste of London
Wimbledon, Ascot ac erbyn hyn, mae’r Taste of London hefyd yn un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr haf yn Llundain. Daeth cynhyrchwyr bwyd a diod eithriadol a chogyddion sy’n gweithio mewn tai bwyta yn Llundain at ei gilydd i gynnal arddangosfeydd a gweithdai, a gan fod llawer o’r cogyddion yn fyd enwog, does fawr o syndod bod y sesiynau wedi gwerthu allan yn gyflym.
Dan adain Gwir Flas, Llywodraeth y Cynulliad, roedd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yno i hybu bwydydd o Gymru. Daeth 15 o’n cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yno, pob un wedi ennill gwobr Gwir Flas. I’w helpu i hyrwyddo’r cynnyrch cynhaliwyd arddangosfeydd gan nifer o brif gogyddion Cymru: James Sommerin o The Crown yn Whitebrook, Shaun Hill - The Walnut Tree, y Fenni a Matt Tebutt – The Foxhunter, Nantyderi a’r rhaglen deledu boblogaidd, Market Kitchen. Prin bod angen dweud i’r seigiau a baratowyd ddiflannu’n hynod o gyflym!
Yn ogystal â choginio, roedd cyfle i ymwelwyr â’r stondin ddysgu pa win i’w weini â pha fwyd dan arweiniad Mike Morgan, gwesty Llansantffraed Court, sut i baratoi cranc gyda Glyn Phillips, Celtic Crabs a chymryd rhan mewn dosbarth meistr ar gwrw gyda Buster Grant, Cymdeithas Bragwyr Cymru.
Ymwelydd cyson â’r stondin oedd y cogydd, Bryn Williams sy’n wreiddiol o Ddinbych ond sydd bellach yn rhedeg bwyty Odette’s yn Llundain. Roedd yntau’n hyrwyddo cynnyrch o Gymru ac mae’n amlwg ei fod e, y cogyddion eraill a’r cynhyrchwyr wedi llwyddo’n rhyfeddol. Llwyddodd rhai i ddyblu eu gwerthiant! Y gobaith nawr yw y bydd llawer o’r ymwelwyr yn awyddus i brofi’r cynnyrch eto ond y tro hwn yn ystod gwyliau yng Nghymru.
11.06.09 Hyrwyddo Cig Cymru Tesco Fforestfach, Abertawe a Hybu Cig Cymru
Ar ôl cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Cig a Physgod 2009, roedd gweithwyr y cownter cig yn Tesco Fforestfach yn awyddus iawn i arddangos Gig Oen a Chig Eidion Cymru ar ei orau. Gyda chefnogaeth Hybu Cig Cymru, roedd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn yr archfarchnad ar gyfer y rownd derfynol yn coginio ryseitiau sydd i’w gweld yn llyfryn ryseitiau’r haf gan Hybu Cig Cymru. Cafodd y cwsmeriaid flasu risotto o Gig Oen Cymru gyda parmesan , cigwain Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru wedi ei dro-ffrio â tsili a Chig Eidion Cymru gyda salad tatws a rhuddygl poeth. Er bod y cwsmeriaid wedi eu plesio, enillodd yr archfarchnad mo’r wobr y tro hwn. Blwyddyn nesaf amdani felly!
07.06.09 Ffwlbri’r Haf
Cafodd rhai o ddisgyblion Pen-y-bont ar Ogwr gyfle i fwynhau gwersi coginio yn ystod dathliadau’r haf ym Mhen-y-bont. Trefnwyd y gwersi gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ar ran Cynor y dref a’u pwrpas oedd annog y plant i ddewis bwydydd iach lleol, ac i ddysgu sgiliau coginio sylfaenol. Roedd ryseitiau megis pocedi pitta a hummus, smŵddi mefus, a byrgyrs cig oen a rhosmari sbeislyd gyda caws Caerffili yn boblogaidd iawn.
Ar ddydd Sadwrn, roedd cyfle i’r teulu cyfan gymryd rhan a dysgu sut mae hi’n bosib bwyta bwydydd lleol, blasus a iach a hynny ar gyllideb. Cafodd y rhieni a’r plant hwyl yn blasu’r seigiau a baratowyd.
31.05.09 Gwir Flas yn Gwyl Y Gelli
Roedd gwledd o weithgareddau’n disgwyl ymwelwyr â Phafiliwn Cymru y Gwir Flas yng Ngŵyl y Gelli eleni. Thema’r pafiliwn oedd Twristiaeth Bwyd ac Ymgynghoriaeth Bwyd Howel oedd yn gyfrifol am drefnu’r rhaglen ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ein partneriaid yno oedd Croeso Cymru, Welsh Rarebit, Adventa, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sôn am Fwyd.
Fel arfer, y gweithdai roddodd y profiad ymarferol oedd fwyaf bywiog! Does dim syndod bod pobl yn tyrru i ddosbarth James Sommerin. Nid pob dydd mae rhywun yn cael cyfle i weld a dysgu gan feistr ac wedyn blasu ei fwyd a hwnnw wedi ennill seren Michelin!
Yn ogystal, cynhaliwyd dosbarthiadau gyda meistri o fyd gwin, Cwrw Cymreig, Chwisgi Penderyn a Charcuterie Ffarm Trealy.
Ddiwedd yr wythnos, gwledd o bysgod roddwyd gerbron y ‘disgyblion’ pan ddaeth Gill Reacord o Aberdyfi â dalfa’r diwrnod o Fae Ceredigion. Y wers y diwrnod hwnnw oedd paratoi cranc ar gyfer y bwrdd bwyd.
Wrth gwrs, doedd dim rhaid baeddu dwylo, roedd digon o gyfle i wrando hefyd gyda nifer o gogyddion amlycaf Cymru yn sôn am eu profiadau a’u gwaith. Yn eu plith roedd Gilli Davies, Simon Wright o’r Polyn, Bryan Webb Tyddyn Llan, Stephen Terry The Hardwick a Shaun Hill The Walnut Tree. Ar y stondin hefyd lansiwyd y gyfrol ddiweddaraf o Great Little Places, y llyfryn sy’n angenrheidiol i’r rheiny sy’n chwilio am rywle heblaw'r gwestai mwyaf ar gyfer eu gwyliau yng Nghymru.
Ymhlith yr ymwelwyr â’r stondin, roedd Elin Jones AC, Gweinidog dros Faterion Gwledig a hi oedd yn gyfrifol am lansio map Sôn am Fwyd. Felly os oes angen gwybodaeth arnoch am gynhyrchwyr bwyd a diod, am wyliau bwyd neu farchnadoedd a siopau fferm yn y Canolbarth o hyn ymlaen, mae’r cyfan ar gael yn hwn.
28.05.09 Eisteddfod yr Urdd
Pryd bwyd i deulu cyfan am £5? Ydy, mae hynny'n bosib a dyna fu Nerys yn ei brofi ar stondin y Cynulliad Cenedlaethol ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd. Ei thasg oedd dangos i eisteddfodwyr sut i baratoi prydau sy'n siwtio'r boced ond sydd hefyd yn sicrhau ein bod yn bwyta'n iach.
11.05.09 HOFEX 2009 Hybu bwydydd Cymreig yn Hong Kong
Er bod yr economi'n gwegian a ffliw moch yn bygwth, daeth ymwelwyr yn eu miloedd i sioe fwyd fwyaf Asia, HOFEX 2009yn Hong Kong. Eleni eto, gwahoddwyd cwmnïau Cymreig i arddangos eu cynnyrch a bu Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn eu cynorthwyo i hyrwyddo hwnnw. Yng nghanol y bwrlwm, bu Siwan yn paratoi tameidiau fyddai'n codi blys am fwydydd o Gymru, yn cynnwys seigiau gyda chig oen Cymru a phob math o bice ar y maen. Ymhlith y bwydydd Cymreig y cafodd rhai o'r 32,000 o ymwelwyr eu profi, roedd cynnyrch Daioni, Dŵr Llanllŷr, Halen Môn a Rachel's Organics.
06.05.09 Gŵyl Fwyd Gorllewin Cymru
Y Sêr yn coginio
Daeth dros 50 o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol i ŵyl newydd sbon yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru dros benwythnos Calan Mai. Dathlu’r cyfoeth o gynnyrch sydd yn yr ardal oedd y bwriad a dyna a wnaed gyda chyfleoedd i flasu, arddangosfeydd, teithiau tywys a gweithdai. Yno hefyd roedd tîm Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn dangos sut i goginio gyda'r cynnyrch gwych a geir yn y Gorllewin a gyda chynnyrch tymhorol. Coron penwythnos llwyddiannus oedd pryd bwyd arbennig a baratowyd gan rai o sêr y byd coginio yng Nghymru; Simon Wright, trefnydd yr wyl a phen-cogydd y Polyn, oedd yn gyfrifol am y cwrs cyntaf, Shaun Hill o'r Walnut Tree yn y Fenni oedd y tu ôl i'r prif gwrs a pharatowyd y pwdin gan Stephen Terry o'r Hardwick, yn y Fenni.
31.03.09 Sôn am Fwyd!
Yn Aberystwyth, Aberhonddu a Dolgellau ddechrau'r gwanwyn bu Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn cynnal nifer o weithdai ar ran Sôn am Fwyd i'r rhai sy’n gweithio yn y sector lletygarwch. Y bwriad oedd dangos manteision defnyddio cynnyrch lleol a’i farchnata’n effeithiol. Yn ogystal â gweithdai, cynhaliwyd clinigau bwydlenni gyda rhai lletywyr, a chafodd y cyfan groeso brwd. Mae newid yn yr arfaeth mewn sawl lle erbyn hyn.
Rydym yn edrych o’r newydd ar ein bwydlenni ac yn mynd ati o ddifri i ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol yn y gwesty, diolch i’r hyn ddysgon ni gan Nerys, Ymgynghoriaeth Bwyd Howel. Rhian Evans, Cydberchennog Gwesty’r Marine, Aberystwyth.
20.03.09 Rysáit y Mis!
Oherwydd y galw gennych chi, rŷn ni wedi penderfynu rhannu rhai o'n ryseitiau blasus â chi. Bob mis, gallwn e-bostio rysáit dymhorol atoch gyda newyddion diweddaraf y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru! Beth amdani? Cliciwch y ddolen ar y chwith a nodi'ch cyfeiriad e-bost – hawdd!!
20.03.09 Gwobrau'r Gwir Flas
Mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel wrth ein bodd ein bod wedi'n dewis yn rhan o'r tîm i gydweithio â Strata Matrix a Telesgop i reoli Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod 2009/10, gyda'r seremoni wobrwyo yn yr hydref. Mae'r cynlluniau ar y gweill a bydd rhagor o fanylion i ddilyn…
26.02.09 Tŷ Bwyta Cyri Cymreig y Flwyddyn
Daeth uchafbwynt gornest Tŷ Bwyta Cyri Cymreig y Flwyddyn yn The Point ym Mae Caerdydd ar 26 Chwefror pan gyhoeddwyd mai'r enillydd oedd Kareem’s o'r Rhyl. Roedd Nerys yn un o'r beirniaid a bu hi a Sirajul Islam a Shuel Ahmed yn y tri bwyty ar y rhestr fer, yn y Rhyl, Llanelli (Sher Khans) a Phen-y-bont (Mumtaz) i brofi cyris wedi'u creu'n arbennig ar gyfer yr ornest gan ddefnyddio cig oen Cymreig ac eitemau sydd wedi ennill gwobrau'r Gwir Flas fel Halen Môn; menyn, iogwrt a hufen Rachel’s Organic; a chennin a blodfresych Really Welsh. Meddai Nerys am y bwyty buddugol, “Roedd yn fraint i ni, y beirniaid, gael darganfod gem unigryw yn nhref lan-môr y Rhyl. Fe wnaeth y profiad ragori ar ein disgwyliadau – o'r croeso wrth gyrraedd, i'r ffordd roedd y lle wedi'i adnewyddu'n chwaethus. Mae safon bwyd Kareem's yn dangos dealltwriaeth ardderchog o'r cynhwysion. Roedd y paratoi, y coginio a'r cyflwyno sensitif yn ychwanegu at ansawdd a blas y cytledi cig oen Cymreig – pryd gwych."
21.02.09 Diwrnod Hwyl y Celtic Crusaders
Cafodd teuluoedd brofi bwydydd lleol, iachus yn Niwrnod Hwyl y Celtic Crusaders ar 21 Chwefror yn stadiwm Cae'r Bragdy, Pen-y-bont. Nod y diwrnod, a drefnwyd o dan Raglen Datblygu Gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd dangos i deuluoedd sut i baratoi bwydydd iachus gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Roedd pobl o bob oed, yn cynnwys chwaraewyr rygbi cyhyrog, yn arbennig o hoff o'r smwythod iachus a'r cig eidion a tshili wedi'i dro-ffrïo!
29.01.09 Sirha 2009
Mae Lyon, Ffrainc, yn enwog trwy'r byd am safon aruchel ei chogyddion a dyma lle y cynhaliwyd Sirha 2009, sef Arddangosfa Fasnach Ryngwladol ar gyfer Gwestai, Arlwyo a Bwyd, ym mis Ionawr eleni. Daeth llu o bobl at stondin Busnes Rhyngwladol Cymru lle'r oedd Nerys yn paratoi danteithion i'w profi gan ddefnyddio bwyd a diod a enillodd wobrau'r Gwir Flas e.e. cynnyrch Mary’s Farmhouse, Patchwork Pâté, Otley, Radnor Hills, Tŷ Nant, Rachel’s Organic a Wisgi Cymreig. Cafwyd llawer o ymholiadau am yr holl eitemau ond y mwyaf poblogaidd oedd y cig oen Cymreig – roedd ciwiau hir o bobl yn aros i gael profi hwnnw!