22.12.10 Bwyd Nadoligaidd…..heb y straen!
Dilynwch Nerys ar raglen Wedi 3 ar S4C lle bydd hi yn darparu gŵydd perffaith gyda’r holl addurniadau am ginio Nadolig arbennig a llawer o syniadau am anrhegion bwyd gan gynnwys siocledi mint, siytni afalau a llugaeron a ‘limoncello’. Dilynwch y ddolen hon…..www.wedi3.com Bu Jamie a Louise wrth ei bodd yn gwledda ar fwydydd bys a bawd ar BBC Radio Wales ar Ragfyr y 15ed pan bu Nerys yn cyflwyno syniadau syml a blasus er mwyn creu Nadolig di-straen!
22.12.10 Taith Cegin Gwir Flas Gaeaf 2010
Yn dilyn Gwobrau Gwir Flas fis Tachwedd, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru trefnodd tîm Ymgynghoriaeth Bwyd Howel taith pymtheg diwrnod o amgylch Cymru ar Cegin y Gwir Flas. Ei ymweliad cyntaf oedd digwyddiad troi ‘r goleuadau Nadolig Penybont yna ymlaen i Gwmbran, Pontypridd, Merthyr Tydfil, Maesteg, Porthaethwy, Caernarfon, Porthmadog, Cross Hands, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Ceredigion a Hwlffordd. Gwynebwyd sawl her yn ystod y daith gan gynnwys tymheredd o -6°C, eira, pibelli wedi rhewi, eirlaw, niwl, gwynt a glaw ond er gwaetha’r cwbl llwyddodd y tîm i gario mlaen (!!) gan ddenu ymwelwyr efo ryseitiau cynnes a blasus o gylchgrawn newydd Gwir Flas sydd yn cynnwys yr ennillwyr newydd.
22.12.10 Gwobrau Gwir Flas
Cafwyd gwobrau Gwir Flas eu cynnal ar faes Withybush yn Hwlffordd ar yr 11ed o Dachwedd. Ar ôl naw mlynedd o’r gwobrau, mae’n saff dweud bod y noson hon yn uchafbwynt yn y diwydiant bwyd a diod yn Nghymru, gan wobrwyo cyfnewidiad ac ardderchowgrwydd i gynhyrchwyr yn ogystal a’r sector adwerthol a lletygarwch. Gweithiodd Nerys a’i thîm mewn partneriaeth gyda chwmni ‘Freshwater’ a chwmni arlwyo EJ Catering i greu pryd pump cwrs gyda bwydydd lleol ac ennillwyr y Gwir Flas . Roedd llawer yn tarddu o fewn 20 milltir i’r dref fel tatws ‘Puffin’, cigoedd Gwaen Valley, lleden a chranc o Sir Benfro, llefrith, wyau, cawsydd, siocled, coffi a llawer mwy!
22.12.10 Hwyl yr ŵyl yn Llandrindod.
Er gwaetha’r eira trwchus a’r tymheredd -10°C llwyddodd tîm Ymgynghoriaeth Bwyd Howel i gyraedd y Ffair Aeaf ar Faes Amaethyddol Frenhinol yn Llandrindod Wells. Cyflwynwyd arddangosfeydd bwyd am y tro cyntaf yn Neuadd Fwyd newydd Y Gwir Flas. Bu’r seidr poeth sbeislyd yn lwyddiant mawr yn y sesiwn bore a chawl sbeislyd hwyaden wedi’i fygu yn cynhesu ein gynulleidfa gwerthfawrogol yn y prynhawn.
22.12.10 Bwyd a Diod o Bowys- Ar Blât
Cafom ein comiwsiynnu gan Glasu i drefnu gwyl a byddai’n hybu canolfanau cynhadleddau ac arlwywyr i ddefnyddio bwyd a diod o Bowys. Roedd y digwyddiad rhwydweithio yma yn cysylltu cynhyrchwyr lleol gyda arlwywyr a chyfanwerthwyr, a chafodd ei leoli yn Llandrindod Wells. Cafodd siaradwyr profiadol o’r maes eu gwahodd i gyflwyno astudiaethau ymarfer gorau gan gynnwys cynrychiolwyr o gynhyrchwyr llwyddiannus, cyfanwerthwr ac arbennigwraig mewn rheolau diogelwch o Ganolfan Bwyd Cymru. Cafwyd cyflwyniadau am ‘farchnata cynnyrch lleol’, ‘prynu cynnyrch lleol-ydy e’n gweithio?’, ‘datblygu busnes a chodi safonau’, ‘sut i ddefnyddio cynnyrch lleol a gwneud elw a sut i gyrraedd eich cwsmeriaid’. Darparwyd cwmni arlwyo lleol ‘Fingers and Forks’ y cinio bendigedig, gyda’r bwyd wedi’i gyfrannu gan gynhyrchwyr lleol.
16.12.10 Prosiect Clybiau Golff Glasu Cafodd Prosiect Clybiau Golff Glasu ei amseru’n berffaith – i gyd-fynd ag ymweliad cyntaf cystadleuaeth Cwpan Ryder â Chymru! Ei nod oedd annog clybiau golff ym Mhowys i gydweithio’n agosach â chynhyrchwyr bwyd lleol fel bod rhagor o fwyd lleol yn cael ei ddefnyddio yn y sir. Bu Nerys mewn saith clwb golff ym Mhowys i gynnig cyngor un i un ac i’w cyflwyno i gynhyrchwyr lleol ac i syniadau newydd am fwyd. Cynhaliwyd lansiad i’r wasg yng Nghlwb Golff Llandrindod ym mis Medi i hybu’r prosiect ac i dynnu sylw at y cysylltiad rhwng y clwb golff hwn a ffermwr a chigydd lleol. Mae’r holl gig oen a chig eidion a gynigir yn y bwyty yn dod o Llandrindod Hall Farm ac mae’r anifeiliaid yn pori ar y tir o gwmpas y cwrs!
16.12.10 Y Gwir Flas ar ras i Baris! Bu Ymgynghoriaeth Bwyd Howel, ar ran adain masnach ryngwladol Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cydgysylltu rhaglen samplu cynnyrch Cymreig yn Sial, sef arddangosfa fwyd fyd-eang a gynhaliwyd ym Mharis. Cafodd ymwelwyr â’r stondin brofi Dŵr Radnor Hills, Dŵr Llanllyr, Wisgi Cymreig, Cwrw Tomos Watkin a Dŵr Ffynnon Ty Nant yn ogystal â chig oen Cymru a phice ar y maen. Y nod oedd hybu allforio’r cynnyrch i Ffrainc a’r tu hwnt.
15.09.10 Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn rhoi bore d Beth amser cyn i gystadleuaeth Cwpan Ryder ddod i’r Celtic Manor, Casnewydd eleni, gofynnwyd i Ymgynghoriaeth Bwyd Howel gynnal prosiect o’r enw Y Brecwast Cymreig.Y nod oedd annog perchnogion llety lle’r oedd ymwelwyr Cwpan Ryder yn aros i gynnig bwydlen frecwast syml, safonol o gynnyrch lleol i’w gwesteion. Byddai hyn yn helpu i wneud yr ymwelwyr yn ymwybodol o Gymru a’i chynnyrch ar ddechrau’r diwrnod. Fel rhan o’r fenter, trefnodd yr Uwch Ranbarth Twristiaeth gyfres o weithdai yng ngofal Nerys ac Alison.Wrth gyrraedd maes parcio a theithio Llanwern, roedd ymwelwyr o Gymru a thramor yn gallu mwynhau brecwast y Gwir Flas wedi’i baratoi gan ein tîm yng Nghegin y Gwir Flas. Gan fod y tywydd yn arw ar y bore Sul, roedd tyrfa fawr o bobl yn gwylio ein cogyddion yn paratoi gwahanol fwydydd Cymreig fel omlet brecwast a bara lawr, sosejis porc a chennin R K Palfrey, Casnewydd, iogwrt Rachel’s Organic gyda Granola Oats So Good, cawl cig oen Cymru, stêcs cig oen Cymru gyda siytni’r hydref, ffagots gan N S James, Rhaglan a llawer rhagor. Roedd yn gyfle ardderchog i arddangos bwydydd a diodydd Cymreig o safon uchel ac roedd ymateb y gynulleidfa’n wych!
14.09.10 Gwyl Fwyd Y Fenni Os ydych yn bwriadu ymweld a Gwyl Fwyd Y Fenni dros y penwythnos (18 & 19 o Fedi) gwnewch yn siwr eich bod chi’n taro heibio Neuadd Y Farchnad ar ddydd Sul am 1.00yp i weld arddangosfa coginio ‘Cymru ar Blat’ Nerys Howell, lle gewch gyfle hefyd i archebu copi wedi’i arwyddo o Cymru ar Blat.
08.07.10 Taste of London
Yn ddiweddar, roedd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn ddigon lwcus i gael cynrychioli Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sioe Taste of London yn Regents Park. Gyda dros 10,000 o ymwelwyr sy'n hoffi bwyd da, roedd yn llwyddiant mawr! Twristiaeth fwyd oedd y thema lwyddiannus yn yr ŵyl ac roedd cyfle i gwrdd â chynhyrchwyr bwydydd y Gwir Flas, a phobl sy'n rhedeg gwestai, tai bwyta a sioeau bwyd. Bu miloedd o ymwelwyr yn cymryd rhan yng Nghwis y Gwir Flas ac roedd gwobrau ardderchog i'r enillwyr. Y wobr gyntaf oedd gwyliau dau ddiwrnod mewn gwesty Cymreig o ddewis yr enillydd, diolch i Welsh Rarebits a'r ail wobr oedd cinio i ddau a chyfle i weld o gwmpas gwinllan Ancre Hill yn Sir Fynwy.
Ymhlith y rhai oedd yn arddangos yn Taste of London roedd: Calon Wen, Ancre Hill, Toffoc, Caws Cenarth, Brownis Bwthyn Gŵyr, Cig Oen Dyffryn Elwy, The Pudding Compartment, Blaenavon Cheese, Llaeth y Llan, Cymdeithas Perai a Seidr Cymru, Welsh Rarebits, Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi, Gŵyl Bwyd Môr Aberteifi, Gŵyl y Bont-faen a Cowbridge festival a Gŵyl Gwledd Conwy.
20.06.10 Cegin y Gwir Flas ar daith! Dros yr haf, bu Cegin y Gwir Flas yn teithio Cymru benbaladr yn profi bwydydd a diodydd o Gymru, yn cynnwys rhai sydd wedi ennill Gwobrau’r Gwir Flas. Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am frand y Gwir Flas ac mae’r Gegin yn hybu cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sydd wedi ennill Gwobrau’r Gwir Flas. Bu’r Gegin mewn llawer o ddigwyddiadau, nifer ohonynt am y tro cyntaf. Yn eu plith roedd Sioeau Cychod De a Gogledd Cymru, Wakestock, Eisteddfod Gydwladol Llangollen, Gŵyl Jazz Aberhonddu, Gŵyl Harbwr Caerdydd, Gêm Griced Ryngwladol SWALEC rhwng Lloegr a Phacistan, Gŵyl Fwyd Sain Ffagan a’r Brakes Royal Parks Half Marathon yn Hyde Park, Llundain. Ar ben hynny, fe lwyddon ni i fynd ar daith sydyn o gwmpas archfarchnadoedd Asda i hyrwyddo cynnyrch y Gwir Flas sydd ar werth ynddynt! Cafodd llawer iawn o ymwelwyr bleser yn gwylio tîm y Gegin yn paratoi pob math o brydau blasus, yn cynnwys omlet bara lawr, cawl pysgod mwg Môn gyda chocos, cyri cig dafad Cwm Elan, porc hufennog Oaklands Organics, mecryll lleol gyda salsa mango, peli cig gyda Chig Carw o Fro Morgannwg, a phwdin bara brith a menyn gyda wisgi Penderyn. Rhannwyd copïau o gylchgrawn y Gwir Flas i’r gwylwyr. Roedd hwn yn cynnwys ryseitiau wedi’u seilio ar gynnyrch y Gwir Flas ac felly roedd pobl yn gallu mynd adref ac ail-greu peth o’r bwyd yr oeddent wedi’i fwynhau yn y Gegin.
12.05.10 Nerys yn cael sylw mewn cylchgrawn yng N
Rhan o erthygl 'Fresh From the Kitchen' gan Sarah Phinney. Un o'r llu uchafbwyntiau oedd cwrdd â Nerys Howell, arbenigwr coginio a chogydd sy'n cyflwyno rhaglen goginio ar deledu cenedlaethol. Rhoddodd Nerys wers goginio i ni mewn cromen wydr enfawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Tan yn ddiweddar, ychydig a ysgrifennwyd am goginio yng Nghymru. Mae'n debyg na chafodd y ffordd Gymreig o goginio lawer o sylw am nad yw'n wahanol iawn i'r hyn a geir yng ngweddill Prydain ac yn Iwerddon. "Mae rhesymau eraill hefyd fel effaith crefydd Anghydffurfiol a oedd yn wfftio bwydydd moethus a chyfnodau tlawd sydd, yn naturiol, wedi dylanwadu ar ein harferion coginio," meddai Nerys. Yn ogystal, roedd llawer o rysetiau traddodiadol yn cael eu trosglwyddo ar lafar gan famau i'w merched ac nid oedd angen eu hysgrifennu. Y newyddion da yw bod Nerys wedi cyhoeddi llyfr, "Cymru ar Blât: Ryseitiau Traddodiadol a Chyfoes ar gyfer Cynnyrch o Gymru". Rhoddodd gopi i bob aelod o'n criw ni. Mae'n em o lyfr. Fodd bynnag, er mwyn cadw'r ryseitiau traddodiadol yn fyw, mae Nerys o'r farn bod angen eu haddasu i gymryd i ystyriaeth chwaeth pobl heddiw, ein dulliau coginio a'n cynhwysion. Dyma rai o'i hawgrymiadau: defnyddio llai o fraster, olew, siwgr a halen nag a nodir yn yr hen ryseitiau; defnyddio cynhwysion mwy modern, fel rhoi llugaeron neu lusi Amercianaidd yn lle cyraints a syltanas, a grilio, tro-ffrïo neu stemio yn lle ffrïo, rhostio neu ferwi. Mae'n bryd cael blas ar Gymru. Beth am godi'ch gwydr gyda mi? “Iechyd da!”
20.04.10 Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ar Facebook
Mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel wedi cyrraedd Facebook! Cewch wybod y newyddion diweddaraf am Nerys a'r tîm os dilynwch y ddolen i ymuno â grŵp Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ar Facebook ...
22.03.10 Diwrnod Masnach Castell Howell
Daeth mwy o bobl nag erioed o'r blaen i ddiwrnod masnach Castell Howell - croesawyd 520 o gwsmeriaid i'r achlysur ar 11 a 12 Mawrth yn y Depo yn Crosshands.Roedd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yno ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu Gwobrau Bwyd a Diod y Gwir Flas i gwsmeriaid Castell Howell ac i annog busnesau i ddefnyddio mwy o gynnyrch sydd wedi ennill Gwobrau'r Gwir Flas wrth baratoi eu bwydlenni.
16.03.10 Wythnos Twristiaeth Prydain
I baratoi'r ffordd ar gyfer Cwpan Ryder 2010, eleni cynhaliwyd gweithgareddau lansio Wythnos Twristiaeth Prydain yn y Celtic Manor, Casnewydd, lle cynhelir y bencampwriaeth golff fawreddog. Dyma'r tro cyntaf i'r lansiad gael ei gynnal y tu allan i Lundain ac roedd pobl flaenllaw o fyd twristiaeth, Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn bresennol. Comisiynwyd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i drefnu Arddangosfa o gynnyrch sydd wedi ennill gwobrau'r Gwir Flas ac roedd nifer o'r cynhyrchwyr yn arddangos eu nwyddau yno. Ymhlith y cynhyrchwyr a oedd yn bresennol roedd Tŷ Nant, cwrw Brains, Rachel’s Organic, Welsh Rarebits, Natty’s, Blaenafon Cheddar Company, Black Mountains Smokery a Gwnaed yn Sir Fynwy gan Adventa.
11.03.10 Ysbrydoli newyddiadurwyr o Ganada
Gwahoddwyd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel i gynnal digwyddiadau'n ymwneud â Thwristiaeth Fwyd ar gyfer newyddiadurwyr o Ganada a oedd yma ar gyfer cynhadledd flynyddol TMAC.
Bu gan Croeso Cymru ran allweddol yn y gwaith o ddenu 200 o newyddiadurwyr o Ganada i Gymru ar gyfer eu cynhadledd flynyddol. TMAC yw prif gymdeithas y cyfryngau ym myd teithio yng Nghanada ac mae'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o'r cyfryngau ac aelodau o'r diwydiant croeso. Y nod yw meithrin rhagoriaeth, cynnal safonau moesegol a hybu datblygiad proffesiynol. Dyma'r tro cyntaf i'r gynhadledd gael ei chynnal y tu allan i Ganada.Yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne y cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf. Yno, bu Nerys yn rhoi cipolwg ar ryseitiau Cymreig traddodiadol a modern o'i llyfr 'Cymru ar Blât/Wales on a Plate'. Yn y tŷ gwydr mawreddog y cynhaliwyd y sesiwn hon, ynghanol planhigion egsotig ac i gyfeiliant llu o adar yn canu!!
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cafwyd cinio yn Ystafell Ddawnsio gwesty'r Angel, y Fenni, lle bu'r Arglwyddes Llanofer yn cynnal dawnsfeydd a gwleddoedd slawer dydd. Bu Nerys yn cydweithio â'r Angel i lunio bwydlen arbennig wedi'i seilio ar fwydydd a diodydd lleol. Ar ôl croeso byrfyfyr gan Kim Water, Prif Weithredwr Gŵyl Fwyd y Fenni, bu Nerys yn sôn am hanes rhai o'r bwydydd oedd yn rhan o'r cinio, yn cynnwys rysáit fwyaf adnabyddus yr Arglwyddes Llanofer, Cig Hwyad Hallt.
23.02.10 Dydd Gwyl Dewi
Ydych yn cydlynu digwyddiad ar gyfer Dydd Gwyl Dewi ac angen syniadau? Neu hoffwch chi ddanfon anrheg Cymreig i’ch cleientiaid neu ffrindiau i ddathlu diwrnod ein Nawddsant? Os am ysbrydoliaeth - nid yw’n rhy hwyr! Am fwy o syniadau codwch y ffon ar 029 2022 0822 neu anfonwch e-bost: enquiries@howelfood.co.ukBeth am gyfuno Dydd Gwyl Dewi ac Wythnos Llyfr yn Anrheg (27 Chwefror – 6 Mawrth) wrth anfon copi dwyieithog o ‘Cymru ar Blât’ fel anrheg? Dyma gasgliad o ryseitiau traddodiadol o Gymru gan gynnwys ryseitiau cyfoes Nerys Howell. E-bostiwch enquiries@howelfood.co.uk i archebu copi.
22.02.10 'On your doorstep'
Yn ddiweddar, gwahoddwyd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel i ymuno â gweithdy 'On Your Doorstep...' a drefnwyd gan yr Uwch Ranbarth Twristiaeth (URT), sef prif gorff twristiaeth De Ddwyrain Cymru. Daeth dros gant o bobl flaenllaw o'r diwydiant croeso i'r gweithdy.
Nod y diwrnod oedd annog busnesau ac awdurdodau lleol i gydweithio i sicrhau llwyddiant diwydiant croeso Cymru a chydweithio i gynnig y profiad gorau posibl i ymwelwyr.
Ymhlith y prif siaradwyr roedd Peter Bursnall, cadeirydd Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy Croeso Cymru; Nerys Howell o Ymgynghoriaeth Bwyd Howel; a John Winton o Croeso i Addoldai Cymru. Roedd yr holl siaradwyr yn sôn am bwysigrwydd dyfeisio dulliau o integreiddio cynaliadwyedd, diwylliant a chynnyrch lleol yn eu busnes fel ffordd o ddatblygu cynlluniau a phecynnau newydd ar gyfer ymwelwyr gan sicrhau eu bod yn cael profiad Cymreig unigryw.
"Mae ymwelwyr yn dweud wrthym mai'r ffaith fod Cymru'n unigryw sy'n eu denu nôl dro ar ôl tro. Os gallwn feithrin ymdeimlad cryfach o le, bydd llu o gyfleoedd y gallwn fanteisio arnynt yn y farchnad ymwelwyr yng Nghymru, ledled Prydain a thramor," meddai Peter Cole. "Mae'r trafodaethau yn y gweithdai heddiw wedi esgor ar nifer o syniadau cyffrous. Gobeithio y bydd y cymdeithasau twristiaeth lleol yn datblygu'r model hwn ac yn cynnal gweithdai tebyg er mwyn annog busnesau i gydweithio a chreu cyfleoedd unigryw i ymwelwyr wedi'u seilio ar dreftadaeth, golygfeydd, crefftau, bwyd a diod, diwylliant a chyfleusterau."
22.02.10 'Wythnos Lyfr yn Anrheg'
Cynhelir Wythnos Llyfr yn Anrheg yn 2010 eto ar ôl ei llwyddiant yn ystod Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cymru 2008. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn rhan o ddathliadau blynyddol Diwrnod y Llyfr yng Nghymru. Lucy Owens yw wyneb newydd yr Ymgyrch ac fe ddewisodd hi roi llyfr Nerys, ’Cymru ar Blât/Wales on a Plate’ yn anrheg i'w gŵr, Rhodri. Mae ‘Cymru ar Blât/Wales on a Plate’ ar gael yn awr am bris arbennig o £5.50 ac mae'n anrheg ddelfrydol i bobl o bob oed.
07.01.10 Blwyddyn Newydd Dda
Blwyddyn Newydd Dda I chi gyd!! Wedi dadflino ac adfywio ar ol prysurdeb Yr Wyl, yn Ymgynghoriaeth Bwyd Howel edrychwn ymlaen at flwyddyn prysur arall. Ar wahan I’r holl brosiectau a’r digwyddiadau a drefnwyd –profwyd 2009 yn flwyddyn gyffrous gyda Nerys yn lawnsio llyfr ar ryseitiau traddodiadol a chyfoes Cymru – Cymru ar Blat a’r ail DVD yn y gyfres Coginio –Ryseitiau Rhanbarthol Cymru. Mae’r flwyddyn yn argoeli’n dda wrth I ni baratoi digwyddiadau rhynglwadol yn Singapore a Barcelona yn ogystal a threfnu ar gyfer Dydd Gwyl Dewi yn agosach at adre! Cadwch olwg ar y dudalen Newyddion am fwy o’n hanes.OS am dderbyn Rysait Y Mis yn syth I’ch ‘inbox’ – cliciwch ar y ddolen ar yr ochr chwith I’r cofrestr. Dyma flas cychwynol rysait mis Ionawr I chi…..
Marmalêd Tri Ffrwyth a Phenderyn
Yn gwneud tua 4.5 kg
Cynhwysion
1.6kg cymysg o lemwn, grawnffrwyth, leim neu orennau (chwerw a melys os bosib) 1.5L o ddŵr 2.5kg siwgr cadw 100ml o chwisgi Penderyn
Dull
Rhowch y ffrwythau yn gyfan mewn sosban fawr. Arllwyswch y dŵr dros y ffrwythau. Rhowch glawr ar y sosban a dewch i’r berw, trowch y gwres i lawr yn isel a mudferwch y cyfan am 1 ½ - 2 awr.Codwch y ffrwythau allan o’r hylif i golandr sy’n sefyll ar blat dwfn (i ddal unrhyw hylif ychwanegol), i oeri. Pan fo’r ffrwythau wedi oeri’n ddigonol i’w trafod, torrwch nhw yn eu hanner a chrafwch y sylwedd sydd yn y canol i gyd allan a’i roi mewn rhidyll dros y sudd sydd dal yn y sosban. Arllwyswch unrhyw sudd o’r plat dwfn i’r sosban.Gwasgwch y sylwedd yn y rhidyll gyda llwy bren i gael cymaint o hylif ag sy’n bosibl allan. Mae’r hylif trwchus hwn yn llawn pectin ac yn helpu’r marmalêd i setio. Ychwanegwych y siwgr i’r hylif a throwch dros wres cymhedrol, trowch yn dda tan bod y siwgr wedi toddi. Torrwch y croen mor fân ag y dymunwch. Trowch y gwres i fyny a berwch yn gyflym am 15-20 munud hyd nes bod y marmalêd yn setio. Ychwanegwch y chwisgi cyn gadel y gymysgedd yn y sosban am 10 munud i oeri ac yna potiwch y cyfan a’i selio a’i labeli.