22.03.12 Wythnos Cymru yn Llundain
Os digwydd i chi fod yn Llundain rhwng Mawrth 1-4, mae’n siwr i chi sylwi ar y cennin pedr a pice ar y maen oedd o gwmpas y lle…...? Fel rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi trefnwyd nifer o ddigwyddiadau gan Lywodraeth Cymru, ac mi fu YBH yno i’w cynorthwyo… BAFTA Cerys Matthews, Karl Jenkins ac Owen Sheers oedd rhai o’r 200 o ymwelwyr a brofodd blas o fwyd a diod ennillwyr Cymru y Gwir Flas ym mhencadlys BAFTA, Picadilly. Trwy gyd-weithio gyda’r prif cogydd Anton Manganaro a’i dîm, datblygodd Nerys fwydlen Gymreig yn arbennig i’r digwyddiad gan gynnwys tartled cocos a bara lawr, euog mwg Black Mountain, lolipop o gig oen Cymreig, cawl bwyd y môr Cymreig a jeli gin eirinen sur fach a thonic. Ac i dorri’r syched ychydig o gwrw Celt, gwin Ancre Hill a dŵr Llanllyr. Marchnad Gwir Flas Dydd Gwyl Dewi Wrth rhoi cyfle i drigolion y ddinas brofi’r gorau o fwydydd Cymreig, cafwyd cyfle pellach iddynt fanteisio ar brynu ein cynnyrch blasus pan daeth 18 o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru ynghyd tu allan i’r Royal Festival Hall ar y Southbank fel rhan o’r Farchnad wythnosol Real Food. Teithiodd cogyddion o fwytai a gwestai ennillwyr y Gwir Flas megis Gwesty Cwrt Llansantffraed, Number 18, Crickhowell a The Crown at Whitebrook i fyny’r M4 i ddangos ei sgiliau coginio i gynulleidfa gwerthfawrogol. Bu digonedd o gig oen gyda Hybu Cig Cymru a Menter Mynyddoedd y Cambrian yno yn cynnig blas o gig oen Cymru. Roedd y cynnyrch a ddarparwyd yn Nghegin y Gwir Flas ar gael i brynu yn y ddinas neu arlein, a chafodd ymwelwyr gyfle o wylio arddangosfeydd arbennig gan staff bar ffresh, Canolfan y Mileniwm a ddatblygodd coctels Cymreig i gyfeiliant triawd jazz o’r Coleg Cerdd a Drama Caerdydd.
25.01.12
Diolch byth i ni gael hoe dros y ‘Dolig achos mae wedi bod fel ffair ma ers hynny! Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir yn Llundain i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ar ran Llywodraeth Cymru,mae YBH wrthi yn cydlynu Marchnad Gwir Flas Dydd Gwyl Dewi ar y Southbank yn Llundain, 2 - 4 Mawrth, 2012. Bydd y Farchnad yn cynnwys 20 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ochr yn ochr â'r Tryc Gwir Flas (neu'r hen Gegin Gwir Flas!!). Cawn arddangosfeydd coginio gan gogyddion o bob cwr o Gymru yn ogystal a chyfle i flasu cynnyrch Cymreig ar gael i'w prynu yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr. Dewch nol am fwy o fanylion ...
Ar noson Dydd Gwyl Dewi byddwn yn hyrwyddo Cymru i fawrion Llundain yng nghartref BAFTA, 195 Piccadilly. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda thim arlwywyr BAFTA i greu bwydlen fydd yn adlewyrchu y gorau o fwyd a diod Cymru i 200 o westeion arbennig.
Yn y cyfamser mae Nerys wrthi yn casglu a chofnodi rhai o ryseitiau hen ei theulu ar gyfer Casgliad y Werin, (www.peoplescollectionwales.co.uk - casgliad o luniau, dogfennau, sain, fideos, straeon ac atgofion mae pobol Cymru wedi cyfrannu, i gyd ar un gwefan) ar gyfer rhaglenni Wedi 3 ar S4C. Caiff y gyfres fer ei darlledu ar 20fed o Ionawr a’r 3ydd a 7fed o Chwefror.
Prosiectau cyffrous eraill ar y gweill yw digwyddiadau masnachol y Gwir Flas ym Mrwsel, Singapore a Sbaen. Amser i ymarfer ein sgiliau ieithyddol!