Ymgynghoriaeth Bwyd Howel | Howel Food Consultancy
 
Cartref   English
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel   Mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn cynnig cyngor a gwasanaethau arbenigol yn y meysydd a ganlyn:

Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Datblygu syniadau newydd ar gyfer marchnata bwyd
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Twristiaeth bwyd
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Hyrwyddo cynnyrch
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Rheoli prosiectau a digwyddiadau bwyd a diod
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Profi ryseitiau
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Datblygu bwydlenni
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Marchnata
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Cynllunio bwyd a ffotograffiaeth bwyd
Ymgynghoriaeth Bwyd Howel Fathrebu aml-gyfrwng
  Ymgynghoriaeth Bwyd Howel

Nerys Howell a Jo Roberts oedd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil a datblygu ac am ysgrifennu Llawlyfr Darparwyr Croesawgarwch ac Arweinlyfr Twristiaeth Bwyd Cnoi Cil. Y brîff a gawsant oedd paratoi arweinlyfr cynhwysfawr, ymarferol a hwylus i roi gwybodaeth i ddarparwyr croesawgarwch ym mhob sector yng Nghymru ac i'w hysbrydoli i gynnig bwydydd a diodydd lleol.

Mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn cynnig hyfforddiant arbenigol i'r diwydiant croesawgarwch. Cynhaliwn weithdai bwyd a diod ar gyfer pob sector - caffis, tafarndai, tai bwyta, tai gwesty, gwestyau ac atyniadau ymwelwyr - i'w hannog i ddefnyddio cynnyrch lleol da a chynigiwn gyngor a chefnogaeth ymarferol i fodloni amcanion ein cleientiaid.

  Ymgynghoriaeth Bwyd Howel

Cafwyd brîff oedd yn dipyn o her gan Eurofoods Ltd, sef creu cyfres o ffotograffau a fyddai'n apelio at wahanol fathau o gwsmeriaid. Yn ogystal, llwyddodd Ymgynghoriaeth Bwyd Howel i baratoi a chynllunio bwydydd ar gyfer casgliad o ryseitiau gan ddefnyddio bwydydd a diodydd ardderchog o Gymru. Ni, hefyd, a gynlluniodd y cynnyrch buddugol a ryseitiau ar gyfer cystadleuaeth gyfredol Gwobrau'r Gwir Flas, gan gadw'n glòs at y brîff i gyfleu delwedd ddeniadol a chyfoes yn unol â gwerthoedd brand y Gwir Flas.

Mae Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yncreu ac yn profi ryseitiau sy'n gydnaws â'r tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant. Rydym yn cydweithio â nifer o ffotograffwyr arbenigol gan roi pwyslais mawr ar ddefnyddio'r props a'r arddulliau gorau i ddangos y bwydydd ar eu gorau.

  Ymgynghoriaeth Bwyd Howel

Aeth Ymgynghoriaeth Bwyd Howel â'r Gwir Flas i'r Byd - o Frwsel i Efrog Newydd a Dubai. Rydym yn cydweithio â chogyddion, arlwywyr a gwestywyr o fri i roi blas Cymreig ar fwydlenni mewn achlysuron mawreddog ym mhedwar ban byd, fel Cwpan Ryder yn Detroit a Chwpan Rygbi'r Byd yn Sydney.

Mae tîm Howel yn cynnig gwasanaeth ymgynghori ar gyfer derbyniadau gan gydweithio â thimau bwyd a diod i sicrhau bod y profiad o fwyta yn un llwyddiannus. Cynigiwn gyngor arbenigol ar faterion fel chwilio am y cynnyrch, cynllunio bwydlenni ac arddulliau cyflwyno ac rydym yn cydweithio'n agos â chynhyrchwyr bwyd a diod i sicrhau bod gennym gronfa ddata o'r cynhyrchion diweddaraf sydd ar gael.

  Ymgynghoriaeth Bwyd Howel

Ymgynghoriaeth Bwyd Howel, mewn partneriaeth ag ymgynghorwyr eraill, a ddatblygodd y syniad a'r strategaeth ar gyfer arddangosfa Blas - arddangosfa ryngweithiol yn cynnwys adrannau gwerthu, caffi modern, theatr goginio, seiber-ofod ac arddangosfa o enillwyr Gwobrau'r Gwir Flas. Ymhlith ein cleientiaid eraill mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Iaith a Threftadaeth yn Nant Gwrtheyrn lle rydym yn datblygu'r adran fwyd yn unol â'r athroniaeth 'naws am le'.

Rydym yn cydweithio'n agos â chleientiaid gan ymchwilio i syniadau newydd am wasanaethau bwyd a'u datblygu gan ddefnyddio bwydydd a diodydd lleol a thymhorol o'r ansawdd gorau. Mae ein gwaith yn cynnwys chwilio am gynnyrch, datblygu bwydlenni, penderfynu ar yr offer gorau, trefnu a rheoli ceginau, delweddau blaen ty, cyflwyno, a sgiliau staff sy'n ymdrin â chwsmeriaid. Cynigiwn wasanaeth unigryw 'Clinig Croesawgarwch' sy'n tynnu sylw at welliannau tymor byr neu hirdymor gyda'r nod o gynyddu trosiant a boddhad cwsmeriaid.

  Ymgynghoriaeth Bwyd Howel

Cawsom gryn brofiad o arddangosiadau coginio byw yn cynnwys ymddangos ar raglenni teledu ar y BBC ac S4C, yn ogystal ag arddangosiadau gartref a thramor a gwaith rheoli sioe deithiol i hyrwyddo cynnyrch o Gymru. Gall ein tîm dwyieithog o arddangoswyr coginio eithriadol fedrus gyflawni llu o ofynion yn cynnwys gwaith teledu, radio, gwyliau bwyd, sioeau amaethyddol, cyfarfodydd lansio cynhyrchion a phartïon preifat. Os ydych yn lansio cynnyrch newydd, gall ein tîm ni sicrhau ei fod yn llwyddo. Mae gennym dros chwe blynedd o brofiad o gynllunio cynnyrch, marchnata, samplu ac arddangos ac rydym wedi gweithio gyda Tesco, Sainsbury's, Asda, Safeway, Waitrose a Marks and Spencer.
  Ymgynghoriaeth Bwyd Howel


Diolch i'r ADC am rhai delweddau
Safle gan Innivo