Amdanom Ni

Nerys Howell

Sefydlwyd y cwmni gan Nerys yn 2005 ac erbyn hyn mae hi a’i thîm o arbenigwyr, ymgynghorwyr a chydweithwyr cysylltiol yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau i’r diwydiant bwyd a diod.  Mae gan Nerys flynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd, diod a lletygarwch, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ac mae’n teithio i bedwar ban byd i hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru. Mae’n awdur tri llyfr dwyieithog –Cymru ar Blât, Bwyd Cymru yn ei Dymor a Cywain -mwy o wybodaeth ar dudalen LLyfrau.

Mae ei thîm brwdfrydig yn credu’n angerddol mewn hyrwyddo bwydydd da ac maent yn hollol gyfarwydd â’r tueddiadau diweddaraf yn y maes bwyd.  Eu nod yw cynnig y gwasanaeth gorau i chi bob amser!

Cewch wybod mwy yn yr adran Ein Gwaith neu ffoniwch am sgwrs i drafod beth y gallwn ei wneud i helpu chi a’ch busnes.