Angerddol am fwyd o ansawdd uchel
O ddylunio bwyd a datblygu ryseitiau, i hyrwyddo cynnyrch a chynllunio digwyddiadau, os ydych chi’n credu’n angerddol mewn hybu bwydydd a diodydd o’r safon uchaf, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn eich helpu i gael y gorau o’ch busnes.
LLYFR NEWYDD
Bwyd Cymru yn ei Dymor
Cyfrol goginio ddwyieithog yn llawn ryseitiau blasus sy’n hyrwyddo y gorau o gynhwysion Cymreig wedi eu creu gan yr arbenigwr bwyd Nerys Howell. Mae Nerys yn wyneb cyfarwydd I wylwyr y rhaglen Prynhawn Da ar S4C ac mewn digwyddiadau a ffeiriau bwyd dros Gymru a thu hwnt. Wedi dychwelyd I Gymru dros ugain mlynedd yn ol fe drawodd Nerys nad oeddem ni fel cenedl yn clodfori cynnyrch ein gwlad yn ddigonol. Man cychwyn ryseitiau y llyfr hwn, sy’n llawn lluniau proffesiynol gan Phil Boorman, oedd y prif gynnyrch sydd ar gael yn ei dymor ac y gellir ei prynu’n lleol.
‘Mae ryseitiau Nerys Howell yn llawn cynhwysion Cymreig, yn tynnu dŵr o’r dannedd’
Gareth Wyn Jones



Barn pobl amdanom…
