Digon i 4

Cynhwysion

2kg cregyn gleision byw, wedi’u sgwrio a thynnu’r cudynnau
1 llwy fwrdd olew olewydd
1 sibwnsen, wedi’i thorri’n fân
50g sosej chorizo, wedi’i thorri’n sgwariau
100ml seidr Orchard Gold Gwynt y Ddraig neu seidr canolig debyg
1 llwy fwrdd hufen dwbl (os y dymunwch)
1 llond llaw persli dail fflat wedi’u torri’n fân
Dull

Taflwch unrhyw gregyn gleision nad ydynt yn cau wrth eu tapio neu rai sy’n agored.

Cynheswch yr olew mewn sosban fawr, rhowch y sibwnsen ynddi a’i choginio nes y bydd yn feddal on heb frownio. Ychwanegwch y chorizo a’i goginio am ryw 5 munud nes y bydd lliw ysgafn arno. Ychwanegwch y seidr a chodi’r gwres nes ei fod yn dechrau ffrwtian.

Arllwyswch y cregyn gleision i menw a rhoi caead tynn drostynt. Ysgwydwch y sosban a choginio’r cregyn gleision am 4 munud neu nes iddynt agor. Ychwanegwch yr hufen (os y dymunwch) a’i gynhesu am funud arall.

Taflwch gregyn sydd heb agor.

Gweinwch gyda phersli wedi’i dorri’n ddarnau a bara crystiog neu sglodion.