LLyfrau

Yma,cewch gyfle i brynu ac archwilio llyfrau gogoneddus Nerys Howell. Os ydych yn coginio adref neu yn ‘chef’ profiadol mae’r llyfrau hyn yn llawn ryseitiau blasus o gynnyrch lleol ag awgrymiadau da wrth i chi goginio! Cewch ymgolli ym myd coginiol Cymru wrth gyd-rannu arbenigedd ac angerdd Nerys.

Cywain (2024)
Bwyd Cymru yn ei Dymor (2021)
Cymru ar Blât (2011)

Cywain

Mae Cywain – ryseitiau o’r arddy n lyfr dwyieithog hardd sy’n llawn ryseitiau a lluniau i ddod â dŵr i’r dannedd.

Mae’r llyfr ryseitiau hwn yn ddilyniant naturiol i’r gyfrol flaenorol Bwyd Cymru yn ei Dymor , oedd yn canolbwyntio ar fwyta’n lleol ac yn dymhorol. Does dim byd mwy cynaliadwy, mwy lleol a mwy tymhorol na defnyddio’r hyn rydym wedi ei dyfu ein hunain a dyna yw prif neges Cywain, sef casglu’r cynhaeaf.

Mae Cywain yn cynnwys ryseitiau sy’n defnyddio rhannau o blanhigion sydd fel arfer yn cael eu taflu, fel y Pesto topiau moron. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys tipiau ar sut i ddechrau garddio, sut i gynhaeafu a storio, calendr tymhorol a sut i leihau gwastraff. Rhannir y gyfrol yn bump rhan – Teulu’r Winwns, Dail, Llysiau gwyrdd a phwmpenni, Llysiau’r haf a Ffrwythau gyda chyflwyniad ar ddechrau pob pennod.

£19.99 + £3.50 p&p

Caiff eich archeb ei brosesi a’i anfon o fewn 4 diwrnod ar ol derbyn eich archeb.

Bwyd Cymru yn ei Dymor

Mae’r llyfr yn ddathliad o gynnyrch Cymreig, cynhaliol ac yn annog pobl i fwyta’n dymhorol.

Cyfrol goginio ddwyieithog yn llawn ryseitiau traddodiadol a chyfoes wedi ei greu gan yr arbenigwr bwyd Nerys Howell. Mae’n wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr Pnawn Da ar S4C ac mewn sioeau bwyd dros Gymru. Fe fydd y gyfrol newydd yn llawn ryseitiau sydd yn dod â dŵr i’r dannedd ac yn hybu cynnyrch o Gymru a bwyd tymhorol. Llawn lluniau lliw.

 

£14.99 + £3.50 p&p

Caiff eich archeb ei brosesi a’i anfon o fewn 4 diwrnod ar ol derbyn eich archeb.

Mae Nerys Howell wedi bod yn hybu a chlodfori bwydydd o Gymru ers achau. Parch anferth iddi hi a diolch mawr am rannu’r cyfrinachau a’r cariad. Dwli ar y llyfr, sôn am anrheg ffab I ddysgwyr. Ond nid yn unig hynny, dwi nawr yn cyfarwyddo gyda geiriau coginio pert ofnadwy!

Sian Lloyd

Cyflwynydd teledu, awdur teithio a bwyd

Cymru ar Blât

Yn Cymru ar Blât, mae’r gegin Gymreig a’i coginio a’i thraddodiadau yn cael bywyd newydd.

Mae’r bwydydd traddodiadol yn cael eu cyfuno gyda ryseitiau cyfoes, cyffrous Nerys Howell sy’n seiliedig ar gynnyrch Cymreig. Dyma ddathliad o goginio Cymru drwy ffynhonnell y cynnyrch -cig o borfeydd mynydd a morfa, blawd o hen felinau, pysgod a bwyd môr o afonydd a chilfachau’r glannau, caws fferm a ffrwythau perllan. LLyfr rhestr fer Gwobrau Gourmand Llyfrau Coginio’r Byd 2010.

£8.50 + £1.50 p&p

Caiff eich archeb ei brosesi a’i anfon o fewn 4 diwrnod ar ol derbyn eich archeb.