Y ffordd orau o fwyta’r ragiau cig oen hyn yw eu torri’n gytledi, eu dipio yn y saws bara lawr a pherlysiau ac yna yn y briwsion lemon.  Mwynhewch!

Cynhwysion

Dwy rag cig oen Cymru (wedi’u torri yn eu hanner)
1 llond llaw fawr mintys ffres
1 llond llaw fawr persli ffres
1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
1 llond llwy bwdin caprys bach
6 cornichon
3 llond llwy fwrdd olew olewydd
Croen 2 lemon a sudd 1 lemon
1 llond llwy bwdin bara lawr ffres neu o dun
4 llond llwy fwrdd briwsion bara
1 llond llwy fwrdd olew
15g menyn

Dull

Cynheswch y ffwrn i 200ºC/400ºF/Nwy 6.

Torrwch linell trwy fraster y cig a’i sesno’n dda.  Seriwch y cig mewn ffreipan wrthlynu boeth nes ei fod yn euraid a’i roi yn y ffwrn am 15 munud. Tynnwch o’r ffwrn a’i adael i orffwys am 5 munud.

Torrwch y mintys, y persli, y garlleg a’r cornichons yn fân. Ychwanegwch yr olew olewydd, croen 1 lemon, y sudd lemon a’r bara lawr a’i droi. Sesnwch at eich dant.

Cynheswch yr olew mewn padell ffrïo ac ychwanegu’r menyn. Ar ôl iddo doddi ychwanegwch y briwsion a’u gorchuddio â’r olew a’r menyn. Coginiwch dros wres canolig nes y byddant yn grispyn ac yn euraid. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu croen 1 lemon.

Rhannwch y cytledi a’u gweini gyda’r saws dipio a’r briwsion lemon.