Os oes angen gwneud pryd munud olaf i ymwelwyr byddwch yn siwr o greu argraff gyda’r pryd syml hwn.

Digon i 4

Cynhwysion
500g pasta linguine ffres
70g berwr
2 ewin garlleg wedi’u plicio
40g Cheddar aeddfed iawn Cymreig, wedi’i gratio
25g cnau pistachio wedi tynnu’r plisgyn, heb eu halltu
½ llond llwy de halen môr Halen Môn
100ml olew olewydd
pupur du
sudd 1 lemwn
Dwy ffiled eog mwg derw Black Mountains Smokery wedi’u torri’n gaenau

Dull
Blendiwch y berwr, y garlleg, y caws, y cnau a’r halen mewn prosesydd.  Tra bydd yn dal i droi, arllwyswch yr olew i mewn yn araf i’w cyfuno. Profwch a rhoi mwy o halen os bydd angen.

Berwch y pasta mewn dwr â halen am 2-4 munud.  Draeniwch ond cadwch tua hanner cwpanaid o ddwr y pasta a rhoi’r pasta a’r dwr yn ôl yn y sosban.

Trowch y pesto i mewn i’r pasta ac ychwanegu’r eog.  Sesnwch â phupur du a sudd lemon.

Gweinwch gyda berwr ffres.