Gweinwch y macrell gyda ffenigl y môr wedi’i stemio’n ysgafn, neu lysiau gwyrdd tymhorol.

Ar gyfer 2

Cynhwysion

2 o ffiledi macrell ffres
1 bỳlb o garlleg
1 x tun 400g o ffa gwynion
Halen Môn a phupur du
3 llwy fwrdd o iogwrt naturiol
1 llwy fwrdd o fara lawr
1 lemwn
2 lwy fwrdd o olew olewydd

Dull

Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180C/Nwy 4.

Torrwch y top oddi ar y bỳlb garlleg cyfan, rhoi’r garlleg yng nghanol sgwaryn o ffoil, gwasgu’r top, a’i goginio yn y ffwrn am 30 munud. Tynnwch y garlleg o’r ffwrn a mynd ati’n ofalus i wasgu’r cnawd meddwl o’r crwyn i mewn i brosesydd bwyd.

Draeniwch y ffa gwynion a’u rhoi yn y prosesydd bwyd gyda 1½ llwy fwrdd o olew olewydd, gan gyfuno popeth tan y bydd y cymysgedd yn llyfn. Ychwanegwch sudd hanner lemwn ato. Blaswch ac ychwanegwch halen os bydd angen.

Rhowch y iogwrt plaen mewn powlen fechan, ac ychwanegu croen a sudd hanner lemwn a’r bara lawr. Cymysgwch y cyfan yn dda. Rhowch hwn ar un ochr tan y byddwch yn barod i roi popeth ar blât.

Cynheswch y gril i ganolig-uchel. Brwsiwch y ffiledi macrell gyda mymryn o olew olewydd ac ychwanegu halen a phupur, cyn eu grilio am 2-3 munud ar bob ochr, tan y byddan nhw wedi coginio.

Wrth i’r mecryll goginio, cynheswch y piwrî ffa gwynion mewn padell dros wres isel. Byddwch yn ofalus nad yw’n dal yng ngwaelod y badell. Os yw’n rhy drwchus, ychwanegwch fymryn yn rhagor o sudd lemwn.

Pan fydd y mecryll wedi coginio, defnyddiwch lwy i roi’r piwrî ffa gwynion ar blât, a rhoi’r ffiledi macrell ar ei ben. Gweinwch gyda’r iogwrt bara lawr.