Potiau cranc gwahanol!  Gallwch wneud y cwrs cyntaf hwn ymlaen llaw er mwyn mwynhau’r pryd yn well.  Mae’n dda gyda digonedd o fara surdoes wedi’i dostio a gwin gwyn ffres.

Digon i: 4-6      Paratoi: 10 minutes

Cynhwysion

½ llond llwy de hadau ffenigl sych
½ tshili bach wedi sychu
½llond llwy de pergibyn (mace) mâl
½ llond llwy de nytmeg mâl
1 cranc parod
Sudd a chroen 1 lemon
150g menyn Cymreig
Halen a phupur

Dull

Malwch yr hadau ffenigl a’r tshili â phestl a breuan.

Rhowch y cranc mewn dysgl fawr gyda’r ffenigl, tshili, pergibyn, nytmeg a chroen lemon a 75g o fenyn.  Cymysgwch i gyfuno’r holl gynhwysion.  Ychwanegwch sudd lemon at eich dant a’i sesno’n dda.

Codwch y gymysgedd cranc i ddysglau ramekin neu ddysglau bach bas a’i fflatio.

Toddwch weddill y menyn a’i ddodi dros y cranc.  Rhowch y dysglau yn yr oergell i setio.

Gweinwch gyda bara surdoes sbelt organic wedi’i dostio.