Fe allwch chi ddefnyddio unrhyw gyfuniad o bysgod neu fwyd môr tymhorol i wneud y tartenni syml ond blasus hyn. Mae nhw’n berffaith fel pryd bach i ddechrau, neu gweinwch fwy nag un gyda salad i wneud cinio ysgafn.

Digon i greu 12

Cynhwysion

4 sibwns, wedi’u torri’n fân
200g o gregyn bylchog bach
200g o gig cranc
80g o gig cocos
Croen a sudd 1 lemwn
2 lwy fwrdd o lysiau’r gwewyr (dil) ffres
4 llwy fwrdd o crème fraiche
Halen Môn a phupur du
4-5 haen o does filo
25g o fenyn wedi’i doddi

Dull

Cynheswch y ffwrn i 180C/Nwy 4. Defnyddiwch fymryn o’r menyn wedi’i doddi i iro tun sy’n dal 12 tarten.

Torrwch y sibwns a’u rhoi mewn powlen gyda’r cregyn bylchog wedi’u torri’n fras, cig y cranc a’r cocos, croen a sudd y lemwn, a llysiau’r gwewyr. Tywalltwch y crème fraiche i mewn a chymysgu popeth yn ysgafn. Ychwanegwch halen a phupur i roi blas.

Torrwch yr haenau filo yn sgwariau mymryn mwy na maint y tyllau yn y tun tartenni. Rhowch un sgwaryn yn y tun tartenni a’i frwsio gyda’r menyn wedi’i doddi, cyn ailadrodd y broses gyda dau sgwaryn arall o’r toes, ar onglau gwahanol, i greu siâp seren.

Defnyddiwch lwy i roi’r cymysgedd bwyd môr ym mhob twll, cyn pobi’r cyfan yn y ffwrn am 15-20 munud, tan y bydd y toes yn grimp ac euraidd, a’r llenwad wedi caledu. Gweinwch ar unwaith.