Rysáit poplogaidd gyda’r gynulleidfa yn Sioe Llanwrtyd 2013 pan wnes i wneud arddangosiadau bwyd i lansio Blas Llanwrtyd.

Digon i 6

Cynhwysion

1 garlleg cyfan
1kg tatws newydd Sir Benfro
1 bwnsied shibwns, wedi’u sleisio’n drwchus
50g menyn Cymreig (ee Calon Wen, Rachels, Shir Gar)
Halen Môr Môn halen a phupur du

Dull

Cynheswch y popty i 200°C / marc nwy 6.

Lapiwch y garlleg mewn darn o ffoil a’i rostio yn y popty am tua 40 munud, nes yn feddal. Tynnwch a’i adael i oeri am ychydig funudau.

Yn y cyfamser, scrwbiwch y tatws a’u rhoi mewn sosban. Arllwyswch dwr berwedig drostynt ac ychwanegu halen a’u mudferwi nes eu bont yn barod.

Draeniwch y tatws, ychwanegwch y menyn a malwch nhw yn fras gyda fforc. Gwasgwch y garlleg meddal o’r ewin mewn powlen fach a’u stwnsio gyda fforc, ychwanegwch at y tatws ynghyd â’r shibwns. Cymysgwch yn dda cyn gweini.