Salad blasus y gallwch ei fwynhau trwy’r flwyddyn. Gallwch ddefnyddio cwscws neu wenith bulgar yn lle’r cwinoa.

Digon i: 4-6
Paratoi: 25 munud
Coginio: 35 munud

Cynhwysion

1 gwrd cnau menyn canolig ei faint
70ml olew olewydd + 30ml olew o dwbyn caws gafr meddal
3 llwy de Halen Môn gyda Sbeisys Organig
Pupur du newydd ei falu
200g cwinoa
4 ewin garlleg wedi’u torri’n haenau main
3 llwy fwrdd dail saetsh ffres wedi’u rhwygo’n stribedi
3 llwy fwrdd oregano ffres wedi’i dorri’n fras
6 llwy fwrdd dail mint ffres wedi’u rhwygo’n stribedi
4 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fain
Sudd ½ lemon
200g caws gafr meddal, blas tshili neu garlleg a pherlysiau

Dull

Cynheswch y popty i 200ºC/Marc Nwy 6.

Golchwch y gwrd cnau menyn, tynnu’r hadau, a’i dorri’n sgwariau tua 3cm. Taenwch y sgwariau mewn tun pobi wedi’i leinio a phapur gwrthsaim.  Diferwch hanner yr olew olewydd drosto a thaenu tipyn o Halen Môn gyda Sbeisys Organig a phupur du.

Rhostiwch am 20- 25 munud, neu nes y bydd yn dyner. Rhowch y cwinoa mewn sosban gyda digon o dd?r berw a gadael iddo fudferwi am 10 munud; hidlwch trwy ogr mân. Pan fydd yn sych ond yn dal yn gynnes, rhowch y cwinoa mewn dysgl gymysgu fawr.

Cynheswch weddill yr olew olewydd mewn padell ffrio fach a ffrio’r garlleg am ryw 30 eiliad, neu nes iddo droi’n lliw euraid golau. Ychwanegwch y saetsh a’r oregano a’u troi wrth ffrio am funud; gofalwch nad yw’r perlysiau na’r garlleg yn llosgi. Arllwyswch gynnwys y badell ffrio ac olew’r caws gafr dros y cwinoa.

Yna, ychwanegwch y gwrd cnau menyn wedi’i rostio, y mint, y shibwns, y sudd lemon a’r caws gafr. Cymysgwch bopeth yn ysgafn. Profwch ef a’i sesno os bydd angen. Gweinwch yn gynnes neu ar dymheredd ystafell.

Dewis iachus
Defnyddiwch hanner yr olew a 100g yn lle 200g o’r caws gafr.