Dyma ffordd i fwydo pedwar o bobl lwglyd gydag un frest hwyad. Pryd blasus, ysgafn i’ch cynhesu ar ddiwrnod oer o aeaf. Gallwch roi mwy neu lai o tshili yn ôl eich chwaeth a’i wneud heb y cig os dymunwch.

Digon i 4

Cynhwysion

1 llond llwy fwrdd olew cnau daear
3 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
darn 2.5cm o sinsir, wedi’i blicio a’i dorri’n sleisys tenau
125g madarch shiitake, wedi’u sleisio
2 tshili coch, wedi tynnu’r hadau a’u torri’n sleisys tenau
2 litr stoc cyw iâr
1 seren anis
1 llond llwy fwrdd gwin reis neu sieri sych
2 lond llwy fwrdd saws soi
200g nwdls
2 ben mawr bok choi (neu lysiau gwyrdd o’ch dewis fel sbigoglys neu fresych)
4 shibwnsyn wedi’u sleisio ar letraws
1 x 250g brest hwyad mwg Black Mountains (neu debyg), wedi’i sleisio’n denau

Dull

Cynheswch yr olew mewn sosban ddofn neu wok. Rhowch y garlleg, y sinsir a’r tshili i mewn a’u coginio dros wres isel am funud.

Tro-ffrïwch y madarch gyda nhw am ddwy funud cyn ychwanegu’r gwin a’r saws soi.

Arllwyswch y stoc drostynt, ychwanegu’r seren anis a’i godi i’r berw. Gadewch i fudferwi am rai munudau.

Rhowch y bok choi i mewn a’i goginio am ddwy funud.

Ychwanegwch y nwdls, y shibwns a’r sleisys cig hwyad.

Rhannwch y nwdls rhwng pedair dysgl weini. Codwch y stoc poeth drostynt a’u gweini.