Mae lliw da ar datws Rudolph gan Puffin Produce a blas melys naturiol. Maent yn feddal a hufennog – yn ardderchog ar gyfer eu pobi a’u rhostio.

Digon i: 4
Paratoi: 10 munud
Coginio: 1 awr 30 munud

Cynhwysion

4 taten Rudolph fawr, wedi’u sgwrio
1 llwy fwrdd olew olewydd
1 llwy de lawn Halen Môn a Hadau Seleri Organig wedi’i falu
2 ffiled eog mwg derw, wedi’u gwahanu’n gaenau
1 lemon, croen tenau a sudd
3 shibwnsyn, wedi’u torri’n fan
1 llwy fwrdd dil ffres, wedi’i dorri’n fan
1 llwy fwrdd lawn crème fraîche
Pupur du newydd ei falu

Dull

Cynheswch y ffwrn i 200ºC/Marc Nwy 6.

Rhwbiwch olew olewydd dros y tatws a thaenu Halen Môn blas seleri drostynt. Pobwch am 1¼ -1½ awr nes y byddant yn feddal.

Cymysgwch weddill y cynhwysion mewn dysgl a’u sesno.

Torrwch y tatws yn eu hanner, tynnu’r tu mewn a’i ychwanegu at y gymysgedd eog. Codwch y llenwad yn ôl i grwyn y tatws a’u gweini.

Dewis iachus
Gallwch fwyta tatws Rudolph trwy’u crwyn heb fenyn – fe synnwch pa mor flasus ydyn nhw, a llai o galorïau hefyd! Defnyddiwch iogwrt naturiol braster isel yn lle’r crème fraîche a’u gweini gyda salad gwyrdd.