Lliwiau traddodiadol ond blas cyfoes i leddfu’r pen wedi’r dathlu!!

Cynhwysion (digon i 2)

50ml Vodka Five
250ml sudd tomato
1 llwy de halen Môn gyda hadau seleri
5 diferyn o saws Worcestershire
3 diferyn o saws chilli poeth Hot Diggidy Dog
Pupur du i flasu
1 llwy fwrdd o ruddygl poeth ffres wedi’i gratio
150ml llaeth
Ffon seleri addurno

Dull

Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn jwg ac eithrio y rhuddygl poeth a’r llaeth.

Rhowch y llaeth a’r rhuddygl poeth mewn sosban a dod â nhw yn raddol i’r berw dros wres canolig-isel er mwyn caniatáu i’r rhuddygl poeth i drwytho y llaeth.  Yn union cyn iddo ddod i’r berw tynnwch oddi ar y gwres a gwaredwch y rhuddygl poeth.  Tiltiwch y sosban a chwisgiwch gan ddefnyddio chwisg trydan i greu ewyn.

Arllwyswch y gymysgedd tomato i wydrau tal a rhowch yr ewyn rhuddygl poeth yn ofalus ar ei ben.  Addurnwch gyda ffon seleri.