Rysáit hawdd a chyflym i’ch cadw’n gynnes ar nosweithiau oer y gaeaf!
Digon i 8
Cynhwysion
1.5 litr seidr
2 llwy fwrdd o siwgr brown
4 ffon fach o sinamon wedi’u hanneri
Croen un oren wedi’i dorri’n stripedi
2 afal
12 clôf
Dull
1. Hannerwch yr afalau a gwasgwch y clôfs i’r croen.
2. Rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban, ychwanegwch yr afalau a thwymwch yn araf am tua 20 munud nes bod y siwgwr wedi toddi.
3. Gweiniwch yn syth mewn gwydrau gyda darn o sinamon ac oren.