Mae’r cawl hwn wedi’i seilio ar hen rysáit a fyddai’n cael ei fwyta i swper gan lowyr yn y de. Mae’r cyw iâr mwg ysgafn yn ychwanegiad blasus iawn.

Ar gyfer 6

Cynhwysion

4 cenhinen
2 daten
80g o bersli deilen gyrliog neu bersli deilen fflat, y dail a’r coesynnau
1 winwnsyn, wedi’i blicio a’i sleisio
1 llwy fwrdd o olew
25g o fenyn
800ml o stoc llysiau
Halen Môn a phupur du
200ml o laeth
2 frest o gyw iâr mwg wedi’i dorri’n haenau tenau

Dull

Golchwch y cennin a’u sleisio, gan gofio defnyddio’r darnau gwyrdd ar y top.

Pliciwch a thorrwch y tatws yn ddarnau 3cm o faint.

Gwahanwch ddail a choesynnau’r persli, cyn torri’r coesynnau’n fân.

Mewn sosban fawr, ffriwch y winwnsyn mewn olew a menyn cynnes, a phan fydd yn feddal, ychwanegwch y tatws, coesynnau’r persli a’r cennin wedi’u sleisio.  Coginiwch am tua 5 munud heb adael i’r llysiau frownio.

Ychwanegwch y stoc a choginio am tua 10 munud, tan y bydd y tatws yn feddal.  Gadewch i’r cymysgedd oeri am ychydig funudau.

Torrwch y dail persli a’u hychwanegu. Rhowch y cyfan mewn peiriant i’w droi’n hylif, ac ychwanegu halen a phupur gan bwyll bach.

Dychwelwch y cawl i’r badell ac ychwanegu’r llaeth. Ailgynheswch y cawl yn araf, gan ofalu nad yw’n berwi.

Gweinwch y cyw iâr mwg ar dop pob powlennaid, ac ychwanegu mymryn o bersli mân yn addurn.