Rysait lleol, ffres a chyflym! Mae’r cyfuniad o datws cynnar Sir Benfro a brithyll ffres yn ddelfrydol ar gyfer swper ysgafn yn ystod misoedd yr haf.

Ar gyfer 2

Cynhwysion

2 o ffiledi brithyll (150g -180g)
300g o Datws Cynnar Sir Benfro
½ cenhinen ganolig ei maint, wedi’i golchi a’i sleisio’n denau
1 llwy fwrdd o fara lawr
50g o ffenigl y môr ffres
1 lemwn a sudd ½ lemwn

Dull

Coginiwch y tatws mewn dŵr berwedig am 15 munud tan y byddan nhw bron iawn yn barod. Gadewch iddyn nhw oeri, cyn eu torri’n sleisys tew.

Torrwch bapur pobi yn ddau hirsgwar mawr, a’u plygu yn eu hanner i greu sgwâr. Torrwch bob sgwâr i greu siâp hanner lleuad. Rhannwch y tatws rhwng y papur pobi ac ychwanegwch halen a phupur i roi blas.

Rhowch y cennin, ffenigl y môr a’r sleisys o lemwn ar y top, ac yna’r ffiled o frithyll.

Gwasgarwch y bara lawr sych, halen a phupur a’r sudd lemwn dros y cyfan.

Plygwch y papur dros y llenwad a phlygu’r ochrau ynghyd sawl gwaith i greu parsel tynn. Gwnewch yr un fath gyda’r parsel arall, a rhoi’r ddau ar silff bobi fawr.

Pobwch am 10-15 munud ar wres 180°C/Nwy rhif 4 tan y bydd y papur wedi dechrau chwyddo ac yn dechrau brownio. Gweinwch ar unwaith.