Mae’r cig dafad wedi’i goginio’n araf mewn cwrw a pherlysiau yn dyner a llawn blas. Gweinwch gyda phentwr o datws stwnsh a llysiau gwyrdd.

Ar gyfer 6

Cynhwysion

½ coes cig dafad, yn pwyso tua 1.8 kg
1 cenhinen, wedi’i golchi a’i sleisio
2 winwnsyn mawr
1 cenhinen mawr wedi’i olchi
2 foronen fawr
3 coesyn seleri
1 bỳlb o garlleg
500ml o gwrw
500ml o stoc llysiau
Llond llaw yr un o deim a rhosmari, wedi’u torri’n fân
2 ddeilen llawryf
2 lwy fwrdd o flawd (wedi’i gymysgu â dwr i greu pâst)

Dull

Cynheswch y ffwrn i 200C/nwy 7.

Pliciwch a thorrwch y winwns, y genhinen, y moron a’r seleri’n fras, a’u rhoi mewn dysgl caserol neu dun rhostio mawr.

Ychwanegwch y perlysiau. Rhowch y cig dafad ar ben y llysiau, ac ychwanegu halen a phupur i roi blas.

Tywalltwch y cwrw a’r stoc dros bopeth, a’i roi i goginio yn y ffwrn am 30 munud.

Trowch y gwres i lawr i 140C/nwy 3, rhowch gaead llac arno, a’i adael i goginio’n araf am 3 awr.

Tynnwch y caead a gwlychu’r cig gyda’r sudd.

Rhowch y cig a’r llysiau ar blât twym. Tynnwch unrhyw fraster o’r hylif yn y tun rhostio, a rhoi’r tun ar yr hob.

Chwisgiwch y pâst blawd i mewn. Daliwch ati gyda’r chwisg tan y bydd y saws wedi tewhau ac yn berwi.  Ychwanegwch halen a phupur i flasu a gweinwch gyda’r cig wedi’i dorri a’r llysiau.