Mae’r cyfuniad clasurol hwn o riwbob, oren a sinsir yn creu pwdin tu hwnt o syml!

Ar gyfer 4

Cynhwysion

400g o riwbob
1 oren – y sudd a’r croen
75g o siwgr crai (siwgr muscovado) ysgafn
450g o iogwrt riwbob
2 sleisen o dorth sinsir

Dull

Cynheswch y ffwrn i 180C/Nwy 6. Golchwch y riwbob, tociwch y pennau, a’u torri yn stribedi 8-10cm o hyd. Rhowch y riwbob mewn dysgl fas, gwasgarwch y siwgr a’r croen oren drosto, ynghyd â sudd yr oren.

Rhowch ffoil dros y ddysgl a rhostio’r riwbob am 15 munud. Tynnwch y ffoil. Defnyddiwch lwy i wlychu’r cyfan â’r sudd, cyn rhoi’r ddysgl yn ôl yn y popty am 5 munud arall tan y bydd y riwbob yn feddal, ond nid yn rhy feddal chwaith.

Rhannwch y iogwrt i bedair powlen, a rhoi’r rhiwbob a’r sudd drosto.

Torrwch y dorth sinsir yn friwsion a’u gwasgaru dros y riwbob cyn gweini.