Mae’r salad hwn ar ei orau’n gynnes, ond gallwch baratoi’r holl elfennau ymlaen llaw, a rhoi popeth at ei gilydd yn syth cyn ei weini.

Ar gyfer 3

Cynhwysion

350g o datws cynnar Sir Benfro
4 sleisen o gig moch mwg
2 afal bwyta ffres, wedi tynnu’r canol a’u torri’n dalpiau
15g (llwy fwrdd) o fenyn
6 llond llaw o ddail salad
50g o gnau cyll wedi’u tostio
4 sibwns, wedi’u golchi a’u sleisio
1 llwy fwrdd o sifys mân i addurno

2 lwy fwrdd o geuled afal sinamon
1 llwy fwrdd o finegr seidr
3 llwy fwrdd o olew olewydd
Halen Môn a phupur du

Dull

Golchwch y tatws a’u torri’n eu hanner a’u berwi tan y byddan nhw fwy neu lai’n feddal.

Ewch ati i greu’r dresin drwy chwisgio’r holl gynhwysion mewn powlen fechan.

Tywalltwch hanner y dresin dros y tatws cynnes ar ôl eu draenio, a’u rhoi i’r naill ochr.

Griliwch y cig moch am 5 munud ar bob ochr, eu tynnu o’r badell, a’u torri’n ddarnau gweddol o faint. Rhowch y menyn yn yr un badell a brownio’r talpiau afal yn y menyn wedi toddi.

Tynnwch yr afalau o’r badell, a glanhau’r badell gyda gweddill y dresin.

Mewn powlen weini, cymysgwch y tatws, y cig moch, yr afalau, y cnau, y sibwns a’r dail salad, gan dywallt y dresin cynnes drosto ac ychwanegu’r sifys i addurno.