Dyma bwdin syml ond effeithiol iawn y gallwch ei baratoi rai dyddiau ymlaen llaw.

Digon i: 6-8
Paratoi: 10 munud ac amser rhewi

Cynhwysion

300ml hufen dwbl
300g iogwrt sinsir math Groegaidd
80g nythod meringue, wedi’u malu
½ potyn ceuled lemon
Croen tenau 1 lemon wedi’i gratio

Dull

Leiniwch dun torth mawr a haenen lynu (clingfilm).

Chwipiwch yr hufen nes ei fod yn feddal ac yn gadael pigau trwchus.  Ychwanegwch yr iogwrt a’r croen lemon a’i chwipio eto. Ychwanegwch y darnau meringue a’i droi’n ofalus.

Codwch y gymysgedd i’r tun, digon i orchuddio’r gwaelod a diferu peth o’r ceuled lemon drosto. Ychwanegwch ragor o’r gymysgedd hufen a iogwrt ac yna’r ceuled lemon i wneud haenau. Rhowch haenen lynu drosto.

Gadewch iddo rewi’n solet. Yn dibynnu ar dymheredd y rhewgell gallai hyn gymryd rhwng pedair awr a dros nos.

I’w weini, tynnwch ef o’r rhewgell am 20 munud, ei dynnu o’r tun a’i dorri’n dafelli trwchus.

Dewis iachus
Gwnewch fersiwn heb hufen trwy ddefnyddio iogwrt naturiol math Groegaidd.