Bwyd cartref ar ei orau! Gellir paratoi hwn o flaen llaw.

Cynhwysion

1 llwy fwrdd olew olewydd
1 winwnsyn wedi dorri’n fân
500g briwgig cig carw
300ml gwin coch
2 sbrigyn teim ffres, dail yn unig
2 llawryf wedi’u torri
2 llond llwy fwrdd piwri tomato
500g tatws
2 genninhen, wedi’u golchi a’u torri
200ml crème fraîche
50g menyn, wedi toddi

Dull

Twymwch yr olew mewn padell ffrïo fawr a ffriwch y winwns am 3-4 munud tan yn feddal. Ychwanegwch y cig a choginiwch am 10 munud tan wedi troi’n frown. Arllwyswch y gwin a’r perlysiau dros y cig. Ychwanegwch y piwri tomato, halen a phupur. Trowch y gwres yn is a gadewch i fud ferwi am tua 20 munud tan bod yr hyluf wedi anweddu.

Twymwch y ffwrn i wres 190ºC/nwy rhif 5.

Rhowch y tatws yn gyfan a heb eu plicio mewn sosban gyda dwr oer – dewch i’r berw a choginiwch am tua 4-5 munud. Rhowch yn syth mewn dwr oer i oeri.

Rhowch y cennin mewn sosban arall ag arllwys dwr berwedig drostynt – dim ond digon i’w gorchuddio – a’u coginio dros wres gymhedrol tan eu bod wedi meddalu. Draeniwch y cennin a’u rhoi ar waelod 4 desgl unigol neu un ddygl fawr sy’n addas i’r ffwrn. Rhowch y crème fraîche dros ben y cennin.

Pliciwch y tatws wedi oeri a gratiwch yn fras i bowlen fawr. Arllwyswch y menyn wedi toddi dros y tatws a throwch yn ofalus. Tynnwch y dail llawryf o’r gymysgedd cig a rhowch y cig dros y cennin ac wedyn y tatws ar eu pen.

Pobwch am 35 munud tan yn euraidd.