Cynhwysion
150ml hufen dwbl ffres
75g siocled gwyn, wedi’i dorri’n ddarnau
2 lond llwy fwrdd o wirod hufen Merlyn
pinsied o sinamon (dewisol)
275g aeron cymysg fel mafon, mefus, llusi duon bach wedi’u golchi

Dull
Toddwch y siocled a’r hufen dros wres isel mewn sosban fach.
Tynnwch hi oddi ar y gwres ac ychwanegu’r gwirod a’r sinamon.
Paratowch y ffrwythau drwy hanneru neu chwarteru unrhyw rhai mawr, eu cymysgu a’u rhannu rhwng pedair disgl bwdin.
Arllwyswch y saws cynnes drostynt a’u gweini.