Cewch agor eich parseli wrth y bwrdd!  Pryd syml, blasus a dim gwaith golchi llestri!

Digon i: 2  Paratoi: 10 munud  Coginio: 25 munud

Cynhwysion

1 draenog y môr (sea bass) mawr neu 2 fach, wedi tynnu’r tu mewn, eu glanhau a thynnu’r cen
1 lemon mawr, wedi’i sleisio
4 llond llwy fwrdd pesto ffres
Joch o win gwyn
Halen Môr Halen Môn
Pupur du

Dull

Cynheswch y ffwrn i 200ºC/400ºF/Marc Nwy 6.
Torrwch riciau yng nghroen y draenog y môr â chyllell finiog a’i roi ar ddalen ddwbl o bapur pobi.
Stwiffiwch y canol â’r sleisys lemon a thaenu’r pesto dros y croen.  Codwch ochrau’r papur pobi ac ychwanegu joch o win gwyn.
Rhowch y pysgodyn ar dun pobi a chau’r parsel yn sownd.  Pobwch am ryw 25 munud.
Gweinwch gyda salad ffenigl a thomatos.