Mae’r hâf wedi cyrraedd a dyma rysáit hwylus a blasus ar gyfer y barbiciw! Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer cwrs cyntaf.  Gallwch ddefnyddio mwy o bowdr tshili os dymunwch!

Digon i: 6 fel cwrs cyntaf
Paratoi: 10 munud ac amser mwydo
Coginio: 15 munud

Cynhwysion

450g darnau brest di-asgwrn cyw iâr buarth, wedi’u torri’n giwbiau

Marinad
1 llwy de sinsir gwraidd ffres wedi’i gratio
2 ewin garlleg, wedi’u torri’n fan
½  llwy de powdwr tshili
¼ llwy de tyrmeric mal
1 llwy de halen môr Halen Môn
150ml iogwrt organig cnau coco math Groegaidd Rachel’s
Sudd lemon
1 llwy fwrdd coriander ffres wedi’i dorri’n ddarnau

Raita
225ml iogwrt organig cnau coco math Groegaidd Rachel’s
Sudd lemon
Llond llaw coriander ffres wedi’i dorri’n ddarnau
Halen môr Halen Môn a phupur du newydd ei falu

Dull
Cymysgwch holl gynhwysion y marinad mewn dysgl. Ychwanegwch y darnau cyw iâr a’u gorchuddio a’u gadael i fwydo yn yr oergell am o leiaf ddwy awr, neu dros nos os oes modd. Cynheswch gril, gradell neu’r barbeciw i wres canolig.

Rhowch sgiwer trwy’r darnau cyw iâr a’u coginio am tua chwarter awr, gan eu troi sawl gwaith nes eu bod wedi coginio trwyddynt.

I wneud y raita, cymysgwch yr holl gynhwysion a’i sesno a halen a phupur.

Gweinwch y sgiweri gyda’r raita, darn o lemon a dail salad cymysg.

Dewis iachus
Er mwyn cyfrannu at eich pump y dydd, gallwch roi puprynnau, nionod, tomatos bach neu fadarch bach ar y sgiweri.