Y ffordd gorau o wneud teisennau cri da yw eu coginio’n sydyn ar y ddwy ochr fel eu bod yn dal yn feddal yn y canol.  Ond gafalwch peidio â’u llosgi!    

Cynhwysion (digon ar gyfer 15-18)
225g o flawd codi
pinsied o halen
llond llwy de o sbeisys cymysg
110g o fenyn neu fargarîn
75g o siwgwr gwyn mân
75g o gyrens a syltanas yn gymysg
wy mawr wedi’i guro
croen hanner lemon

Dull
Rhidyllwch y blawd, yr halen a’r sbeisys i bowlen. Rhwbiwch y menyn neu’r margarîn i’r cynhwysion sych nes eu bod fel briwsion bara mân.  Ychwanegwch y siwgwr, y croen lemon a’r ffrwythau sych.  Arllwyswch yr wy a chymysgu’r cyfan yn does.

Ysgeintiwch dipyn o flawd ar fwrdd a rholio neu wasgu’r toes nes ei fod tua 5mm / chwarter modfedd o drwch. Torrwch ef yn gylchoedd â thorrwr 4-5cm / 1½ i 2 fodfedd, neu gallwch ei dorri’n sgwariau (ni fydd raid i chi ei ail-rolio dro ar ôl tro os y gwnewch hynny).

Craswch y pice ar radell weddol boeth, gan eu troi unwaith, nes y byddant yn euraidd ar y ddwy ochr ond yn dal ychydig yn feddal yn y canol  Taenwch siwgwr gwyn mân drostynt tra byddant yn dal yn boeth.  Os nad oes gennych radell, gallwch ddefnyddio padell ffrio drom wedi’i hiro ag ychydig o fenyn. 

Beth am drio pice gyda blas mwy cyfoes – rhai gyda siocled ag oren?  Ychwanegwch 75g o beli siocled bychain (choclate drops) a chroen un oren yn lle’r ffrwythau sych a’r lemon.

Mae’r pice ar eu gorau pan fyddant yn gynnes ond fe gadwant am hyd at 10 diwrnod mewn bocs aerglos.  Maent yn flasus hefyd gyda jam a hufen ffres wedi’i chwipio’n ysgafn.