Mae rhain yn ddelfrydol os oes gennych alergedd i gynnyrch llaeth neu am dorri braster o’ch bwyd.

Gwneud tua 15

Cynhywsion

75g blawd gwenith (spelt)
75g ceirch
½ llwy de powdwr pobi
1 llwy de sinamon mâl
1 afal
50g cnau pecan
75g sudd masarn
60ml olew blodyn yr haul
Croen ½ oren
Sudd oren

Dull

Cynheswch y popty i 180ºC/350ºF/Nwy4

Rhowch y blawd, ceirch, powdwr pobi a’r sinamon mewn powlen a chymysgu’n dda.

Ychwanegwch yr afal, cnau a chymysgu eto.

Mewn powlen arall, cymysgwch y sudd masarn, olew a croen lemwn a throi i gyfuno.

Ychwanegwch y gymysgedd blawd ag afal i’r cynhwyion gwlyb nes eu bod wedi cyfuno.  Ychwanegwch sudd oren os yw’r gymysgedd yn rhy sych.

Rhowch lwy de fawr o’r gymysgedd ar hambwrdd cogino wedi’i leinio â phapur pobi gan adael tua 5cm rhwng pob un.

Rhowch ar silff dop y popty a’u pobi am 10-12 munud.

Tynnwch o’r popty a’u gadael i oeri am ychydig funudau cyn rhoi ar weiren oeri am o leiaf 10 munud.