Torth furum gyda ffrwythau yw’r rysáit traddodiadal am fara brith er mai rysáit tebyg i hon caiff ei weini erbyn hyn. Mae’r gacen yn un llaith ac yn cadw am beth amser gan bod y ffrwythau wedi’u mwydo mewn te dros nos.

Digon i:  8-10 tafell   |  Paratoi: 15 munud |  Coginio: 1 awr

Cynhwysion
400g ffrwythau sych cymysg (resins, syltanas, cwrents)
300ml tê twym cryf
250g blawd codi
1 ½ llwy de sbeis cymysg
75g siwgr muscovado brown tywyll
1 llwy fwrdd marmaled
1 wy, wedi’i guro
mêl i roi sglein arni

Dull
1. Rhowch y ffrwythau sych cymysg mewn powlen gymysgu, arllwyswch y tê drostynt, ychwanegwch y siwgr a’r marmaled i’r gymysgedd a chymysgu’n dda nes bod y siwgr wedi toddi.  Gadewch am o leiaf 6 awr neu dros nos.
2. Drannoeth, hidlwch y blawd a’r sbeis i mewn at y gymysgedd (nid oes angen cael gwared o’r te) ac ychwanegwch yr wy.  Cymysgwch yn dda.
3. Leiniwch dun 900g gyda phapur gwrthsaim a rhowch y gymysgedd yn y tun.
4. Pobwch mewn ffwrn wedi’i chynhesu i 180°C/Nwy 4 am tua awr nes fod y dorth wedi codi a wedi’i choginio drwyddi.
5. Gadewch i oeri ar hambwrdd oeri a chadwch hi am 2 ddiwrnod cyn ei bwyta. Gweinwch gyda menyn.

Gellir dwbli’r maint i wneud 2 dorth a gellir eu cadw am 7 niwrnod.

Os am sglein cynheswch ychydig o fêl i wasgaru dros wyneb y gacen gynnes.