Cynhwysion

500g ceirch bras
100g cnau cyll, wedi’u torri
100g cnau coco
75g hadau blodau’r haul
25g hadau sesame
50g hadau pumpkin
1llwy de rhun fanilla
300g o fêl clir
3 llwy fwrdd olew llyseuol
200g ffrwythau wedi’u sychu fel bricyll, ceirios, gellyg, reisins, llugaeron

Dull

Rhowch y ceirch, cnau cyll, cnau coco a’r hadau mewn dysgl fawr.  Toddwch y mêl a’r olew, ychwanegwch y rhun fanila ac arllwyswch dros y gymysgedd sych.  Lledaenwch ar hambwrdd mawr (neu 2 fach) a phobwch yn y ffwrn ar 150°C/nwy rhif 2 am 30 munud, tan yn frown golau gan droi unwaith hanner ffordd drwyddo.

Wedi i’r gymysgedd oeri, ychwanegwch y ffrwythau sych a gweinwch gyda llaeth, iogwrt neu ffrwythau.  Cadwch mewn llestr aerdyn.